Ian Smith
Oddi ar Wicipedia
Prif weinidog Rhodesia (yn awr Zimbabwe) oedd Ian Douglas Smith (8 Ebrill, 1919 - 20 Tachwedd, 2007),
Ganed Smith yn Selukwe, De Rhodesia. Bu yn Brif Weinidog gwladwriaeth Brydeinig De Rhodesia o 13 Ebrill, 1964 hyd 11 Tachwedd, 1965, pan gyhoeddodd y wlad ei hun yn anibynnol heb gytundeb Prydain. O'r dyddiad hwnnw hyd 1 Mehefin, 1979 roedd yn Brif Weinidog Rhodesia.
Dim ond y boblogaeth wyn oedd yn cael pleidleisio yn yr etholiadau. Rhwng 1971 a 1979 bu llywodraeth Smith yn ymladd yn erbyn cenedlaetholwyr duon, a daeth hefyd dan bwysau economaidd gan y gorllewin, nad oedd yn derbyn annibyniaeth Rhodesia. Yn 1979 daeth y ddwy ochr i gytundeb, ac ymddiswyddodd Smith fel Prif Weinidog. Olynwyd ef gan lywodraeth yn cynnwys y duon a'r gwynion, dan arweiniad Abel Muzorewa o'r UANC. Yn etholiad 1980 enillodd ZANU fwyafrif a daeth Robert Mugabe yn Brif Weinidog. Parhaodd Smith yn aelod o senedd Zimbabwe hyd 1987. Bu farw yn Ne Affrica.