India
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
Arwyddair: Satyameva Jayate (Sanskrit) Devanāgarī: सत्यमेव जयते (Cymraeg: "Gwir yn Unig Sydd yn Ennill") |
|||||
Anthem: Jana Gana Mana | |||||
Prifddinas | Delhi Newydd | ||||
Dinas fwyaf | Mumbai | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Hindi, Sanscrit, Saesneg, Assameg, Bengaleg, Bodo, Dogri, Gujarati, Kannada, Kashmiri, Konkani, Malayalam, Maithili, Meitei, Marathi, Nepaleg, Oriya, Punjabi, Santali, Sindhi, Tamileg, Telugu ac Wrdw | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth | ||||
• Arlywydd • Prif Weinidog |
Pratibha Patil Manmohan Singh |
||||
Annibyniaeth • Gwladwriaeth • Gweriniaeth |
Oddiwrth y Deyrnas Unedig 15 Awst 1947 26 Ionawr 1950 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
3,287,590 km² (7fed) 9.56 |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Cyfrifiad 2001 - Dwysedd |
1,103,371,000 (2il) 1,027,015,247 329/km² (31fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $3.633 triliwn (4fed) $3,344 (122fed) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.602 (127fed) – canolig | ||||
Arian cyfred | Rupee (INR ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
IST (UTC+5:30) (UTC+5:30) |
||||
Côd ISO y wlad | .in | ||||
Côd ffôn | +91 |
Gwlad yn Ne Asia yw Gweriniaeth yr India neu India. Mae hi'n ffinio â Phacistan i'r gorllewin (gan gynnwys rhanbarth Kashmir), Tibet (Tsieina), Nepal a Bhutan i'r gogledd, a Bangladesh a Myanmar i'r dwyrain. Mae ynys Sri Lanka yn gorwedd dros y dŵr o Damil Nadu, penrhyn deheuol India. Er bod poblogaeth Tsieina'n fwy, yr India yw gwlad ddemocrataidd fwya'r byd. Mae mwy na biliwn o bobl yn byw yn y wlad a mae'n nhw'n siarad mwy nag 800 o ieithoedd. Delhi Newydd yw prifddinas y wlad.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
Mae India yn wlad anferth sy'n ymestyn o'r Himalaya yn y gogledd i draethau trofannol Cefnfor India yn y de. Yn y gorllewin mae taleithiau Rajasthan a Gujarat yn anial iawn tra bod y taleithiau dwyreiniol a'r de eithaf yn nhiriogaethau is-drofannol. Mae gan y wlad arfordir hir iawn ar Fôr Arabia yn y gorllewin, Cefnfor India yn y de a Bae Bengal yn y dwyrain.
[golygu] Hanes
[golygu] Iaith a diwylliant
Mae mwy nag 800 o ieithoedd yn cael eu siarad yn India (gweler Rhestr o ieithoedd India), rhai ohonynt gyda rhai cannoedd o filynau o siaradwyr ac eraill gyda llai na 100. Mae'r ieithoedd mwyaf yn cynnwys Hindi (337 miliwn / 40.0%), Bengaleg (69 miliwn / 8.30%), Telugu (69 miliwn / 7.87%), Marathi (68 miliwn / 7.45%), Tamileg (66 miliwn / 6.32%), Wrdw (60 miliwn / 5.18%), Gujarati (46 miliwn / 4.85%), Kannada (35 miliwn / 3.91%), Malayalam (35 miliwn / 3.62%), Oriya (32 miliwn / 3.35%) a Punjabi (23 miliwn / 2.79%). Mae gan India sawl llenyddiaeth felly. Mae'n gartref yn ogystal i lenyddiaeth Sanscrit, un o'r hynaf yn y byd.
Hindŵaeth yw prif grefydd y wlad, ond ceir yn ogystal lleiafrifoedd sylweddol o ddilynwyr Siciaeth, Jainiaeth ac Islam. Mewn rhai taleithiau, yn arbennig yn Goa a'r Gogledd-ddwyrain (e.e. Khasia), ceir canran sylweddol o Gristnogion. India yw mamwlad Bwdhiaeth ond ni cheir llawer o Fwdyddion yno heddiw, ac eithrio yn Ladakh a Zanskar, a'r ffoaduriaid o Dibet mewn rhannau eraill o'r Himalaya Indiaid.
[golygu] Llywodraeth
Mae India'n wlad ddemocrataidd a reolir gan Senedd India. Rhennir y senedd yn ddau siambr, sef y Lok Sabha etholedig sy'n cynrychioli'r bobl yn uniongyrchol (fel Tŷ'r Cyffredin) a'r Rajya Sabha sy'n cynrychioli'r taleithiau. Mae'r blaid gyda'r mwyafrif o seddau yn y Lok Sabha yn ffurfio'r llywodraeth ac yn dewis prif weinidog. Mae gan India arlywydd yn ogystal. (Am lywodraeth y taleithiau a'r rhanbarthau, gweler isod).
[golygu] Unedau gweinyddol
Rhennir India yn 29 talaith a chwech tiriogaethau undebol a reolir gan y llywodraeth ffederal. Mae gan bob talaith, ynghyd â thiriogaeth undebol Pondicherry, eu llywodraethau etholedig eu hunain. Mae'r pedair tiriogaeth undebol eraill yn cael eu rheoli gan weinyddwyr a apwyntir gan y llywodraeth ganolog. Yn ogystal, rhennir pob talaith a thiriogaeth undebol yn rhanbarthau (District). Weithiua, yn achos taleithiau mawr, unir rhai rhanbarthau i ffurfio division. Rhennir pob rhanbarth yn ei thro yn sawl Tehsil.
Taleithiau a thiriogaethau India | |
---|---|
Taleithiau | Andhra Pradesh • Arunachal Pradesh • Assam • Bihar • Chhattisgarh • Goa • Gorllewin Bengal • Gujarat • Haryana • Himachal Pradesh • Jammu a Kashmir • Jharkhand • Karnataka • Kerala • Madhya Pradesh • Maharashtra • Manipur • Meghalaya • Mizoram • Nagaland • Orissa • Punjab • Rajasthan • Sikkim • Tamil Nadu • Tripura • Uttarakhand • Uttar Pradesh |
Tiriogaethau | Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Tiriogaeth Genedlaethol Delhi • Daman a Diu • Lakshadweep • Pondicherry |
[golygu] Gweler hefyd
[golygu] Dolenni allanol
- Porth gwe swyddogol Llywodraeth India
- Cyfeiriadur Llywodraeth India - gwefannau swyddogol pob talaith a thiriogaeth
- Delweddau o India
- Encyclopædia Britannica, India
- BBC - Proffeil gwlad ar India
- Gwybodlenni am India
Afghanistan · Armenia · Azerbaijan1 · Bahrain · Bangladesh · Bhutan · Brunei · Cambodia · Corea (Gogledd Corea · De Corea) · Cyprus · Dwyrain Timor · Emiradau Arabaidd Unedig · Fiet Nam · Georgia1 · Gwlad Iorddonen · India · Indonesia · Irac · Iran · Israel (gweler hefyd tiriogaethau Palesteinaidd) · Japan · Kazakhstan1 · Kuwait · Kyrgyzstan · Laos · Libanus · Malaysia · Maldives · Mongolia · Myanmar · Nepal · Oman · Pakistan · Pilipinas · Qatar · Rwsia1 · Saudi Arabia · Singapore · Sri Lanka · Syria · Tajikistan · Gwlad Thai · Tsieina (Gweriniaeth Pobl China (Hong Kong • Macau) · Gweriniaeth Tsieina (Taiwan)) · Twrci1 · Turkmenistan · Uzbekistan · Yemen