J. G. Parry-Thomas
Oddi ar Wicipedia
Peiriannydd a gyrrwr rasio ceir Cymreig oedd John Godfrey Parry-Thomas (6 Ebrill 1884 - 3 Mawrth 1927).
Ganed Parry-Thomas yn Wrecsam, Sir Ddinbych, lle roedd ei dad yn gurad yn Rhosddu. Pan oedd yn bump oed, symudodd y teulu i Croesoswallt, ac addysgwyd ef yn Ysgol Croesoswallt a Choleg City and Guilds, Llundain.
Daeth yn brif beiriannydd cwmni Leyland Motors, a thua diwedd y 1910au cynlluniodd ef a'i gynorthwydd Reid Railton y Leyland Eight, i gystadlu a Rolls-Royce. Gadawodd ei yrfa gyda Leyland i ddod yn yrrwr rasio proffesiynol yn Brooklands yn Surrey.
Yn ystod y 1920au, bu ef a Malcolm Campbell yn ceisio cymeryd record cyflymdra y byd oddi wrth ei gilydd ar Draeth Pentywyn yn Sir Gaerfyrddin. Ar 3 Mawrth 1927 roedd Parry-Thomas yn ceisio torri'r record eto yn ei gar Babs. Lladdwyd ef pan dorrodd cadwyn ar y car ar gyflymdra o 170 milltir yr awr a'i daro. Claddwyd ef yn Byfleet yn Surrey, gerllaw Brooklands, a chladdwyd Babs ar y traeth lle digwyddodd y ddamwain. Yn ddiweddarach, adferwyd y car gan Owen Wyn Owen, ac mae'n awr i'w weld yn yr amgueddfa ym Mhentywyn.