Jakokoyak
Oddi ar Wicipedia
Mae Jakokoyak yn brosiect cerddoriaeth lo-fi pop o Gymru, gydag elfennau seicadelic gwerin ac arbofi electroneg.
Pensaer y prosiect electroneg arbofol Jakokoyak yw Rhys Edwards. Mae'n canu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Yn wreiddiol o'r Wyddgrug, dechreuodd Edwards recordio pan oedd yn y Brifysgol. Gan weithio a recordio ar ei ben ei hun, fe arbrofodd gyda hen allweddellau a phedalau effeithiau. Mae'r unigrwydd yma yn dod drosodd yn gryf yn ei gerddoriaeth ac yn rhan o sain unigryw Jakokoyak. Mae wedi rhyddhau albym, Am Cyfan Dy Pethau Prydferth (cafodd y teitl ei gymryd oddi ar boster a gyfieithwyd yn wael ar furiau Undeb Prifysgol Caerdydd) yn 2003 ac fe gafodd ei ail-ryddhau yn Japan yn 2004. Ers hynny, mae wedi bod ar daith gyda'r Super Furry Animals yn Japan ac wedi perfformio yn stiwdios Maida Vale gyda Mogwai. Cafodd yr EP Flatyre ei ryddhau yn 2006 ac roedd y gan 'Eira' yn record yr wythnos ar orsaf radio Xfm.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Disgograffi
[golygu] Albymau
- Am Cyfan Dy Pethau Prydferth Awst 2003, (Recordiau Peski)
- Am Cyfan Dy Pethau Prydferth (rhyddhau yn Siapan) Awst 2004, (Macaroni Records)
[golygu] Senglau ac EPs
- Flatyre, (EP) (Mawrth 2006), (Recordiau Peski)
[golygu] Crynoddisgiau Amlgyfrannog
- Folk Off! Gorffennaf, 2006
- Dan y Cownter Awst, 2005
- Gigs, Chips a 'Trip' Mewn Tacsi!, Awst, 2004
- New Welsh Talent 2003 - Music Week Magazine Awst 2003
- A Step In The Left Direction, Awst 2001, (Boobytrap)
[golygu] Cysylltiadau
- jakokoyak.com - gwefan swyddogol
- BBC Minisite
- myspace.com/jakokoyak