John Gibson
Oddi ar Wicipedia
Cerflunydd Fictorianaidd o fri oedd John Gibson (19 Mehefin 1790 - 27 Ionawr 1866), ganwyd yng Ngyffin, Conwy. Ym 1817 symudodd i Rufain i weithio yng ngweithdy y cerflunydd Eidalaidd enwog Antonio Canova. Roedd ei gerfluniau i gyd yn yr arddull Glasurol, a ceisiodd Gibson atgyfodi'r arfer o beintio cerfluniau marmor gyda lliwiau llachar fel y gwnaeth y Groegiaid hynafol. Ef oedd hoff gerflunydd y Frenhines Fictoria. Mae 10 o'i gerfluniau i'w gweld yn Academi Brenhinol y Celfyddydau yn Llundain a phump yn yr Oriel Genedlaethol yng Nghaerdydd.