John Jones (sant)
Oddi ar Wicipedia
Merthyr Catholig a sant oedd John Jones (hefyd Griffith Jones, weithiau John Buckley Jones) (1559 - 12 Gorffennaf, 1598), a aned yng Nghlynnog Fawr yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd). Ei frawd oedd William Jones, sefydlydd cwfaint Benedictaidd Cambrai.
Ymunodd John Jones ag Urdd Sant Ffransis yn Rhufain yn 1591 a threuliodd gyfnod yn Pontoise, Ffrainc. Dychwelodd i Brydain y flwyddyn ganlynol dan gêl ond cafodd ei arestio yn Llundain yn 1594 ar gyhuddiad o fod yn offeiriad Catholig yn gweithio o blaid y Gwrth-Ddiwygiad. Cafodd ei ddienyddio trwy ei grogi yn Southwark ar 12 Gorffennaf 1598.
Yn 1970 fe'i canoneiddiwyd gan y Pab Pawl VI fel un o Ddeugain Merthyr Lloegr a Chymru.