Julian Hodge
Oddi ar Wicipedia
Banciwr masnachol oedd Syr Julian Hodge (15 Hydref 1904 - 17 Gorffennaf 2004).
Cafodd ei eni yn Llundain, ond bu'n byw wedyn yng Nghymru. Sefydlodd Fanc Masnachol Cymru, a nifer o gwmnïau ariannol eraill. Cafodd ei ddychanu'n ddidgrugaredd gan y Private Eye, ac fe honnid ei fod yn codi llog eithafol wrth roi benthyg arian i rai.
Tua diwedd ei oes fe gefnogodd ymgyrch yn erbyn sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Prynwyd Banc Masnachol Cymru gan Fanc Brenhinol yr Alban, ond parhaodd banc preifat arall o'r enw Banc Julian Hodge.