Leòdhas
Oddi ar Wicipedia
Y rhan ogleddol o ynys fwyaf Ynysoedd Allanol Heledd yw Leòdhas (Saesneg:Lewis). Gelwir y rhan ddeheuol yn Na Hearadh (Harris). Mae gan yr ynys amrywiaeth o fywyd gwyllt ac mae'n un o gadarnleoedd iaith Gaeleg yr Alban, gyda tua 60% o'r boblogaeth yn siarad Gaeleg fel iaith gyntaf a thua 70% a rhyw wybodaeth o'r iaith. Presbyteriaeth yw'r brif grefydd, ac mae cadw'r Sul yn parhau i fod yn bwysig yma.
Yn 2001 roedd poblogaeth Leòdhas yn 16,872. Prifddinas yr ynys yw Steòrnabhagh (Saesneg: Stornoway), sydd a chysylltiad fferi ag Ullapool ar y tir mawr. Mae maes awyr bychan ger pentref Melbost, rhyw ddwy filltir i ffwrdd. Ar un adeg roedd dylanwad y Llychlynwyr yn gryf yma, a daw enw'r ynys o Ljóðhús yn Hen Norwyeg.
Ceir nifer o henebion diddorol ar yr ynys; yr enwocaf efallai yw cylch cerrig Calanais (Callanish) a'r broch yn Dun Carloway. Mae hefyd yn nodedig am y bythynnod traddodiadol a elwir yn Dai Duon, gydag enghreifftiau yn Arnol a Garenin.