Maiden Castle
Oddi ar Wicipedia
Bryngaer yn sir Dorset, de Lloegr, yw Maiden Castle. Mae'n safle 115 erw ar gopa Bryn Fordington, ger Dorchester. Credir y gallai'r amddiffynfeydd cyntaf ddyddio o tua 2,000 CC. Cloddiwyd y safle gan yr archaeolegydd enwog Syr Mortimer Wheeler a chafwyd hyd i dystiolaeth fod pentref o gyfnod Oes yr Haearn ar y safle tua 400 CC. Cafodd ei chipio gan y Rhufeiniaid yn OC 43 a'i gadael yn anghyfanedd ar ôl tua 70.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.