Marathon, Groeg
Oddi ar Wicipedia
Mae Marathon (Groeg Demotig: Μαραθώνας, Marathónas; Groeg Katharevousa: Μαραθών, Marathón) yn dref yn Attica, Gwlad Groeg, sy'n fwyaf enwog fel safle Brwydr Marathon yn 490 CC, pan orchfygwyd y Persiaid gan yr Atheniaid.
Saif Marathon tua 26.2 milltir (42 km) i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Athen. Yn ôl y traddodiad, rhedodd yr Atheniad Phidippides o faes y frwydr i Athen gyda'r newyddion am y fuddugoliaeth, a syrthiodd yn farw ar ôl trosglwyddo'r newydd. Y pellter yma a ddefnyddiwyd ar gyfer y ras fodern, y Marathon.
Claddwyd yr Atheniaid a laddwyd yn y frwydr, 192 ohonynt, dan domen gladdu gerllaw. Mae colofn farmor ar y domen yn awr, a pharc bychan o'i hamgylch.
Roedd poblogaeth cymuned Marathon yn 5,453 yn 1991.