Merched Beca
Oddi ar Wicipedia
Merched Beca yw'r enw a roddwyd ar y rhai a oedd yn cymryd rhan yn Helyntion Beca sef gwrthryfel gwerinol yn erbyn y tollau drud a godwyd am deithio ar hyd y ffyrdd tyrpeg.
Roedd y dynion yn gwisgo dillad merched fel na fyddai neb yn eu hadnabod ac mae'r enw Rebecca yn gysylltiedig ag adnod 60 yn Genesis 24.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Catrin Stevens, Terfysg Beca (Gomer, 2007)
- Trosiad Beryl Thomas o waith David Williams, Helyntion Becca (1974)