Mizoram
Oddi ar Wicipedia
Mae Mizoram yn dalaith yng ngogledd-ddwyrain India, yn ffinio ar Myanmar yn y dwyrain a'r de a Bangladesh yn y gorllewin. Roedd yn rhan o dalaith Assam hyd 1973, pan ddaeth yn Diriogaeth yr Undeb. Daeth yn dalaith ym mis Chwefror 1987. Y brifddinas yw Aizawl.
Roedd y boblogaeth yn 888,573 yn 2001. Mae llythrennedd yn y dalaith yr ail-uchaf yn India, 88.8% o'r boblogaeth; dim ond Kerala sy'n uwch. Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn perthyn i lwyth y Mizo, ac mae tua 87% o'r boblogaeth, gan gynnwys bron y cyfan o'r Mizo, yn Gristionogion.
Taleithiau a thiriogaethau India | |
---|---|
Taleithiau | Andhra Pradesh • Arunachal Pradesh • Assam • Bihar • Chhattisgarh • Goa • Gorllewin Bengal • Gujarat • Haryana • Himachal Pradesh • Jammu a Kashmir • Jharkhand • Karnataka • Kerala • Madhya Pradesh • Maharashtra • Manipur • Meghalaya • Mizoram • Nagaland • Orissa • Punjab • Rajasthan • Sikkim • Tamil Nadu • Tripura • Uttarakhand • Uttar Pradesh |
Tiriogaethau | Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Tiriogaeth Genedlaethol Delhi • Daman a Diu • Lakshadweep • Pondicherry |