Na Hearadh
Oddi ar Wicipedia
Y rhan ddeheuol o ynys fwyaf Ynysoedd Allanol Heledd yw Na Hearadh (Saesneg: Harris). Gelwir y rhan ogleddol yn Leòdhas (Saesneg:Lewis). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 3,061; y prif sefydliad yw An Tairbeart neu Tairbeart na Hearadh, Saesneg:Tarbert), lle cellir cael fferi i Uig ar ynys Skye.
Ar y cyfan mae Na Hearadh yn fwy mynyddog na Leòdhas, ac yma mae'r copa uchaf ar Ynysoedd Allanol Heledd, sef An Cliseam, 799 medr. Mae gan yr ynys amrywiaeth o fywyd gwyllt ac mae'n un o gadarnleoedd iaith Gaeleg yr Alban, gyda tua 60% o'r boblogaeth yn siarad Gaeleg fel iaith gyntaf a thua 70% a rhyw wybodaeth o'r iaith. Presbyteriaeth yw'r brif grefydd, ac mae cadw'r Sul yn parhau i fod yn bwysig yma. Mae'r ynys yn enwog am y brethyn "Harris tweed", ond ar Leòdhas y gwneir y rhan fwyaf ohono bellach.