Nadolig
Oddi ar Wicipedia
Gŵyl Gristnogol flynyddol yw'r Nadolig, sy'n dathlu genedigaeth Iesu Grist. Mae nifer o arferion yn gysylltiedig gyda'r Nadolig, sydd wedi cael eu dylanwadu gan wyliau cynharach y gaeaf. Mae'r dyddiad yn ben-blwydd traddodiadol Crist, er nad yw'n cael ei ystyried i fod yn wir ddyddiad ei ben-blwydd.
Yn y rhan fwyaf o wledydd y byd, dethlir y Nadolig ar y 25 Rhagfyr. Yr enw a roddir i'r diwrnod o'r flaen yw Noswyl y Nadolig (24 Rhagfyr). Ym Mhrydain a nifer o wledydd y Gymanwlad dethlir Gŵyl San Steffan ar y diwrnod canlynol, 26 Rhagfyr: Gŵyl San Steffan yw'r enw ar y diwrnod yn Nghymru ac mewn nifer o wledydd Catholig, a Boxing Day yw'r enw yn Saesneg. Mae hon yn ŵyl banc yn y Deyrnas Unedig (yn cynnwys Gogledd Iwerddon). Mae Eglwys Apostolaidd Armenia yn dathlu'r Nadolig ar 6 Ionawr tra bod rhai Eglwysi Uniongred Dwyreiniol hynafol yn ei ddathlu ar 7 Ionawr, y dyddiad yn ôl Calendr Gregori sy'n cyfateb i'r 25 Rhagfyr yng Nghalendr Julian.
Yn dilyn tröedigaeth yr Eingl-Sacsoniaid yn Lloegr o'u amldduwiaeth frodorol (ffurf ar grefydd y Germaniaid paganaidd) yn gynnar yn y 7fed ganrif, gelwyd y Nadolig yn geol yn Lleogr, sy'n dod o'r gair Germaneg am ŵyl yr heuldro cyn-Gristnogol a oedd yn disgyn ar yr un diwrnod. O'r gair geol daw'r gair Saesneg presennol, Yule. Mae nifer o arferion a gysylltir â'r Nadolig gyfoes yn tarddu o arferion y paganiaid Germanaidd.
Cynyddodd amlygrwydd Diwrnod y Nadolig yn raddol ar ôl i Siarlymaen gael ei goroni ar Ddiwrnod y Nadolig yn 800. Tua'r 12fed ganrif, trosglwyddwyd olion hen draddodiadau Sadwrnaidd y Rhufeiniaid i 12 Diwrnod y Nadolig (26 Rhagfyr - 6 Ionawr). Roedd y Nadolig yn ystod yr Oesoedd Canol yn ŵyl gyhoeddus, gan gyfuno defnydd o eiddew, celyn a phlanhigion eraill bytholwyrdd yn ogystal a rhoddi anrhegion.
Mae traddodiadau cyfoes wedi datblygu i gynnwys Presebau, celyn a choed Nadolig, cyfnewid cardiau ac anrhegion, ac ymweliad Siôn Corn ar Noswyl neu fore'r Nadolig. Mae themau'r Nadolig traddodiadol yn cynnwys hybu ewyllys da a heddwch.