Oes Ganol y Cerrig yng Nghymru
Oddi ar Wicipedia
Oes y Cerrig Canol yng Nghymru yw'r cyfnod cynhanes sy'n llenwi'r bwlch rhwng Oes yr Hen Gerrig ac Oes y Cerrig Newydd. Enw arall ar y cyfnod yw 'Mesolithig'. Roedd yn parhau o tua 9000 CC hyd tua 4000 CC.
Fel yn achos gweddill gogledd-orllewin Ewrop, roedd hyn yn gyfnod sy'n gorwedd rhwng diwedd yr olaf o Oesoedd yr Iâ yn Ewrop a dechrau amaethyddiaeth. Roedd pobl yn dal i fyw mewn grwpiau bychain o bobl, yn hela anifeiliaid gwyllt a hel bwydydd y môr, cnau a llysiau er mwyn cynnal eu hunain. Nodweddir eu diwylliant, sy'n perthyn i ddiwylliant Maglemosiaidd y cyfandir, gan yr arfer o wneud meicrolithiau (offer carreg bychain) a fyddai fel rheol yn cael eu gosod mewn handlau pren neu asgwrn neu ymhen gwaywffyn. Y ci oedd yr unig anifail domestig.
Yn y cyfnod hwn, sy'n dechrau tua 9000 CC (wrth reswm doedd 'na ddim trawsnewid dros nos), roedd yr hinsawdd yn gwella'n araf a'r dymheredd yn codi. Byddai'r amgylchedd yn adlewyrchu hyn. Tyfai coedwigoedd a diflannodd y mamothau olaf. Daeth pobl drosodd o'r cyfandir fesul dipyn, gan groesi'r pont tir rhwng Prydain ac Ewrop lle ceir Môr Udd heddiw. Roedd yr arfordir yn uwch nag y mae heddiw ac yn cynnig safleoedd deniadol i bobl. Bu rhywfaint o ymsefydlu yn y bryniau hefyd ond roedd bywyd ar yr arfordir yn haws. Defnyddiai pobl eu hoffer meicrolith - a oedd ymhell o fod yn gyntefig - i hela anifeiliaid a physgod.
Ychydig iawn o olion pobl y cyfnod sydd wedo goroesi. Roedd eu trigfannau'n gysgodfeydd ac adeiladau pren ysgafn yn ôl pob tebyg, a byddent yn mudo'n aml i ddilyn preiddiau anifeiliaid neu hel bwydydd y môr yn ôl y tymor. Fel rheol dim ond drylliau bychain o gallestr wedi'u gwasgaru ar y llawr sydd i'w cael ond ceir olion mwy sylweddol mewn ambell ogof, e.e. Ogof Nana ar Ynys Bŷr oddi ar arfordir Sir Benfro.
Nid yw'n amhosibl fod rhai o'r traddodiadau a geir yn llên gwerin Cymru yn dyddio o'r cyfnod hwn, yn arbennig y chwedlau am diroedd boddiedig fel Cantre'r Gwaelod.
[golygu] Gweler hefyd
Cynhanes Cymru | |
---|---|
Hen Oes y Cerrig | Oes Ganol y Cerrig | Oes Newydd y Cerrig | Oes yr Efydd | Oes yr Haearn |