Oes Newydd y Cerrig yng Nghymru
Oddi ar Wicipedia

Nodweddir Oes Newydd y Cerrig, neu'r cyfnod Neolithig yng Nghymru gan ddechrau ffermio. Credir fod hyn yn dyddio o tua 4000 CC., pan mae canlyniadau dadansoddiad paill yn awgrymu fod rhywfaint o glirio'r fforestydd wedi dechrau, proses a gyflymodd yn ystod y cyfnod.
Un o brif nodweddion y cyfnod yma yng Nghymru oedd adeiladu siamberi claddu. Mae'r domen o gerrig neu bridd oedd yn gorchuddio'r rhan fwyaf ohonynt bellach wedi diflannu, gan adael y meini mawr oedd yn ffurfio'r siambr ei hun, y cromlechi. Ceir tri prif fath o siamberi claddu yng Nghymru, y Beddrodau Hafren-Cotswold , yn bennaf yn y de-ddwyrain, y Beddau Porth, yn bennaf o gwmpas yr arfordir gorllewinol, a'r Beddau Cyntedd, sy'n arbennig o nodweddiadol o Ynys Môn ac sy'n debyg iawn i rai o siamberi claddu Neolithig enwog Iwerddon. Mae yna lawer o dystiolaeth o gysylltiad diwylliannol clos rhwng Cymru ac Iwerddon, yn enwedig yn y cyfnod Neolithig cynnar.
Mae olion aneddiadau yn brinnach, ond mae nifer gynyddol wedi eu darganfod yn y cyfnod diweddar. Yr enwocaf yw tai Clegyr Boia ger Tyddewi a'r tŷ yn Llandygai ger Bangor. Roedd nifer o "ffatrioedd" yn Nghymru yn cynhyrchu bwyeill cerrig. Y mwyaf o'r rhain oedd Graig Lwyd ger Penmaenmawr; mae cynnyrch Graig Lwyd wedi ei ddarganfod cyn belled a Swydd Efrog a chanolbarth Lloegr.
[golygu] Safleoedd o Oes Newydd y Cerrig yng Nghymru
- Dyffryn Ardudwy, Gwynedd
- Gwernvale, Powys
- Pentre Ifan, Sir Benfro
- Tinkinswood, Bro Morgannwg
- Trefignath, Ynys Môn
[golygu] Llyfryddiaeth
- Steve Burrow (2006) Cromlechi Cymru: marwolaeth yng Nghymru 4000 - 3000 CC (Amgueddfa Cymru) ISBN 0 7200 05671
- George Children a George Nash (1997) The anthropology of landscape: a guide to Neolithic sites in Cardiganshire, Carmarthenshire & Pembrokeshire (Logaston Press) ISBN 1 873827 99 7
- I.Ll. Foster & Glyn Daniel (gol.) (1965) Prehistoric and early Wales (Routledge and Kegan Paul)
- Frances Lynch (1970) Prehistoric Anglesey: the archaeology of the island to the Roman conquest (Cymdeithas Hynafiaethwtr Môn)
- Frances Lynch, Stephen Aldhouse-Green a Jeffrey L. Davies (2000) Prehistoric Wales (Sutton Publishing) ISBN 0-7509-2165-X
Cynhanes Cymru | |
---|---|
Hen Oes y Cerrig | Oes Ganol y Cerrig | Oes Newydd y Cerrig | Oes yr Efydd | Oes yr Haearn |