Owen Jones (pensaer)
Oddi ar Wicipedia
Pensaer ac awdur o dras Cymreig oedd Owen Jones (15 Chwefror 1809 - 19 Ebrill 1874). Roedd yn un o arloeswyr chromolithograffeg.
Ganed ef yn Llundain, yn fab i Owen Jones (Owain Myfyr). Wedi iddo gael ei brentisio i swyddfa pensaer am chwe blynedd, treuliodd bedair blynedd yn teithio yn yr Eidal, Gwlad Groeg, Twrci, yr Aifft a Sbaen. Gwnaeth astudiaeth arbennig o'r Alhambra yn Granada.
Wedi dychwelyd i Lundain yn 1836, bu'n gweithio fel pensaer, yn arbenigo mewn tu mewn adeiladau. Roedd yn un o'r arolygwyr ar gyfer Arddangosfa 1851 ac yn gyfrifol am addurno'r Palas Grisial. Sefydlodd y Museum of Manufacturers, rhagflaenydd y Amgueddfa Victoria ac Albert. Yn 1856 cyhoeddodd ef a'r Arglwydd Brougham gynllun ar gyfer "Palas y Bobl", a gwblhawyd yn 1873 fel yr Alexandra Palace.
Cyhoeddodd ei lyfr pwysicaf, The Grammar of Ornament, yn 1856, a chafodd ddylanwad mawr trwy gyflwyno gwaith celf addurnol o wledydd y dwyrain i'r gorllewin.
[golygu] Cyhoeddiadau
- Plans, Elevations and Details of the Alhambra (1835-1845), gyda MM. Goury a Gayangos
- Designs for Mosaic and Tesselated Pavements (1842)
- Encaustic Tiles (1843)
- Polychromatic Ornament of Italy (1845)
- An Attempt to Define the Principles which regulate the Employment of Color in Decorative Arts (1852)
- Handbook to the Alhambra Court (1854)
- Grammar of Ornament (folio, 1856; quarto, 1868–1910)
- One Thousand and One Initial Letters (1864)
- Seven Hundred and Two Monograms (1864)
- Examples of Chinese Ornament (1867)