Pêl-droed rheolau Awstralaidd
Oddi ar Wicipedia
Chwaraeon poblogaidd yn Awstralia yw pêl-droed rheolau Awstralaidd (Saesneg: Australian rules football). Mae e’n fath o bêl-droed a chwaraeir yn bennaf yn Victoria, De Awstralia, Gorllewin Awstralia a Tasmania. Mae'n boblogaidd yn iawn ymhlith cymunedau Awstraliaid brodorol hefyd.
Y gystadleuaeth pêl-droed Awstralaidd pwysicaf a mwyaf poblogaidd yw Cynghrair Pêl-droed Awstralaidd.
[golygu] Hanes
Cafodd pêl-droed Australaidd ei dyfeisio gan Tom Wills ym Melbourne ym 1858. Roedd y chwaraeon wedi creu ar gyfer cricedwyr i gadw’n heini yn ystod y gaeaf. Cafodd y gêm cyntaf ei chwarae ar 31 Gorffennaf 1858 yn y Cae Richmond, ger safle modern Maes Criced Melbourne.
Crewyd Clwb Pêl-droed Melbourne ar 7 Awst, 1858, a chafodd rheolau swyddogol eu ysgrifennu ym 1859.
[golygu] Rheolau
Mae pêl-droed Australaidd wedi chwarae ar maes chwarae hirgrwn rhwng dau dîm, gyda deunaw chwaraewyr yr un.
Rhaid i timau cicio'r pêl drwy'r pedwar post gôl ar bob diwedd y maes chwarae. Rhoir chwe "phwynt" am cicio'r pêl rhwng y dau post canolog, ac un "pwynt" am cicio'r pêl rhwng y pyst i'r de a'r chwith.
Er enghraifft: Tîm A, 14.11.95 yn trechu Tîm B, 12.6.78. Ciciodd Tîm A pedwar ar ddeg gôl (chwe phwynt yr un), ac un ar ddeg pwynt - (14 x 6) + 11 = 95. Ciciodd Tîm B deuddeg gôl (chwe phwynt yr un), a chwe phwynt - (12 x 6) + 6 = 78. Felly, Tîm A sy'n fuddugol.