Nodyn:Pigion/Wythnos 1
Oddi ar Wicipedia
Pigion
Dechreuodd diwydiant llechi Cymru yn y cyfnod Rhufeinig, pan ddefnyddiwyd llechi ar do caer Segontium, Caernarfon. Tyfodd y diwydiant yn araf hyd ddechrau’r 18fed ganrif, yna bu tŵf cyflym hyd ddiwedd y 19eg ganrif. Roedd yr ardaloedd cynhyrchu llechi pwysicaf yng ngogledd-orllewin Cymru, gan gynnwys Chwarel y Penrhyn ger Bethesda, Chwarel Dinorwig ger Llanberis, Dyffryn Nantlle a Blaenau Ffestiniog, lle roedd y llechi yn dod o gloddfeydd tanddaearol yn hytrach na chwareli agored. Penrhyn a Dinorwig oedd y ddwy chwarel lechi fwyaf yn y byd, a Chwarel yr Oakeley ym Mlaenau Ffestiniog oedd y gloddfa lechi fwyaf yn y byd. Defnyddir llechi yn bennaf ar doeau, ond mae darnau mwy trwchus o lechfaen yn cael eu defnyddio ar gyfer lloriau, byrddau gwaith a beddfeini ymhlith pethau eraill.
Hyd at ddiwedd y ddeunawfed ganrif, cynhyrchid y llechi gan griwiau bach o chwarelwyr oedd yn talu i’r tirfeddiannwr am gael defnyddio’r chwareli. Byddent yn cario’r llechi i’r porthladdoedd ar gefnau ceffylau neu mewn certi, ac yna yn eu hallforio i Loegr, Iwerddon ac weithiau Ffrainc. Tua diwedd y ganrif, dechreuodd y tirfeddianwyr mawr weithio’r chwareli eu hunain, ar raddfa fwy. Wedi i’r llywodraeth wneud i ffwrdd â'r dreth ar lechi yn 1831, tyfodd y diwydiant yn gyflym a datblygwyd rheilffyrdd cul i gario’r llechi i’r porthladdoedd. mwy... |
Erthyglau dewis
Tim Rishton - Le Morte d'Arthur - Gwenhwyfar - GIG Cymru - Anifeiliaid Hynaf - Llywodraeth y Deyrnas Unedig - Llanelli Wledig - Gwasanaeth Awyr Cymru - Athenry - Abaty Hendy-gwyn ar Daf - Brwydr Camlan - Historia Regum Britanniae - Cyfarwydd - Tysilio - Edwin, brenin Northumbria - Taleithiau Iwerddon - Rhestr o Gymunedau Cymru - Wallace & Gromit in The Curse of the Were-Rabbit - Plas Iolyn - The White Album - Ymgyrch Senedd i Gymru - Loire-Atlantique - Gwrth-imperialaeth - David Owen (Dewi Wyn o Eifion) - Traethodl - Cleiro - Les Choristes - Llyn Aled - Henry Purcell - Bhasha Andolon - Marchwiail Giuseppe di Stefano · Alain Robbe-Grillet · Roy Scheider · Phyllis A. Whitney |