Nodyn:Pigion/Wythnos 3
Oddi ar Wicipedia
Pigion
Caerdydd yw dinas fwyaf a phrifddinas Cymru. Roedd Caerdydd yn dref fechan tan flynyddoedd cynnar y 19eg ganrif. Tyfodd yn gyflym gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol ac yn arbennig pan gysylltwyd y cymoedd â rheilffyrdd fel y gellid allforio glo o'r porthladd. Yn 1851 'roedd poblogaeth Caerdydd yn 20,000 ond erbyn 1911 roedd yn 182,000 ac erbyn 1991 roedd yn 269,000. Yn 1891 roedd Caerdydd yn allforio 708,000 o dunelli o lo: erbyn 1911 roedd yr allforion yn 10 miliwn tunnell.
Roedd porthladd Caerdydd yn cael ei adnabod fel Tiger Bay, ac ar un adeg hwn oedd un o borthladdoedd mwyaf prysur y byd. Ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, mae'r ardal wedi cael ei hadnewyddu fel Bae Caerdydd. Gobeithir y daw yn ardal boblogaidd ar gyfer y celfyddydau, bywyd nos ac adloniant. Daw'r twf aruthrol yma ar ôl adeiladu argae ar draws y bae, gan greu llyn enfawr.Yr oedd hyn yn ddadleuol iawn ar y pryd, ac yr oedd hefyd yn ofid fod y gymuned leol a oedd yn bodoli yn Tiger Bay yn cael ei chwalu. Ym Mae Caerdydd yr ymsefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yno mae Canolfan y Mileniwm sydd yn gartref i Urdd Gobaith Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru yn ogystal â Stadiwm y Mileniwm. mwy... |
Erthyglau dewis
Tim Rishton - Le Morte d'Arthur - Gwenhwyfar - GIG Cymru - Anifeiliaid Hynaf - Llywodraeth y Deyrnas Unedig - Llanelli Wledig - Gwasanaeth Awyr Cymru - Athenry - Abaty Hendy-gwyn ar Daf - Brwydr Camlan - Historia Regum Britanniae - Cyfarwydd - Tysilio - Edwin, brenin Northumbria - Taleithiau Iwerddon - Rhestr o Gymunedau Cymru - Wallace & Gromit in The Curse of the Were-Rabbit - Plas Iolyn - The White Album - Ymgyrch Senedd i Gymru - Loire-Atlantique - Gwrth-imperialaeth - David Owen (Dewi Wyn o Eifion) - Traethodl - Cleiro - Les Choristes - Llyn Aled - Henry Purcell - Bhasha Andolon - Marchwiail Giuseppe di Stefano · Alain Robbe-Grillet · Roy Scheider · Phyllis A. Whitney |