Nodyn:Pigion/Wythnos 49
Oddi ar Wicipedia
Pigion
Mae Penmaenmawr yn dref ym mhlwyf Dwygyfylchi, yng ngogledd-orllewin Sir Conwy (hen Sir Gaernarfon), gogledd Cymru, poblogaeth tua 4,000. Mae'n dref glan môr sydd wedi tyfu o gwmpas y chwarel, ond nid oes llawer o bobl yn gweithio yn y chwarel bellach. Mae'n sefyll ar arfordir y gogledd rhwng tref Conwy a Bangor, ar yr A55. Mae ganddi orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae iddi dri ward, pob un a'i gymeriad ei hun; Penmaenan yn y gorllewin, Pant-yr-afon yn y canol a phentref Dwygyfylchi yn y gorllewin.
Bu newid mawr yn sgîl creu'r lôn ddeuol newydd, yr "Expressway" (A55) yn y 1980au, pan gollodd y dref ran helaeth o'i phromenâd cyfnod Edwardaidd oedd yn boblogaidd gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, ond codwyd un newydd yn ei le. Mae Penmaenmawr yn nodedig am ei llwybrau cerdded ar y bryniau a'i golygfeydd hardd. Mae Bwlch Sychnant yn denu ymwelwyr, ac mae rhan o'r dref yn gorwedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri. mwy... |
Erthyglau dewis
Tim Rishton - Le Morte d'Arthur - Gwenhwyfar - GIG Cymru - Anifeiliaid Hynaf - Llywodraeth y Deyrnas Unedig - Llanelli Wledig - Gwasanaeth Awyr Cymru - Athenry - Abaty Hendy-gwyn ar Daf - Brwydr Camlan - Historia Regum Britanniae - Cyfarwydd - Tysilio - Edwin, brenin Northumbria - Taleithiau Iwerddon - Rhestr o Gymunedau Cymru - Wallace & Gromit in The Curse of the Were-Rabbit - Plas Iolyn - The White Album - Ymgyrch Senedd i Gymru - Loire-Atlantique - Gwrth-imperialaeth - David Owen (Dewi Wyn o Eifion) - Traethodl - Cleiro - Les Choristes - Llyn Aled - Henry Purcell - Bhasha Andolon - Marchwiail Giuseppe di Stefano · Alain Robbe-Grillet · Roy Scheider · Phyllis A. Whitney |