Nodyn:Pigion/Wythnos 4
Oddi ar Wicipedia
Pigion
Mae Ukiyo-e (Siapaneg 浮世絵), sef "lluniau o'r byd cyfnewidiol", yn genre o brintiau bloc pren a lluniau Nikuhitsuga a gynhyrchid yn Siapan o'r 17fed ganrif hyd ddechrau'r 20fed ganrif, sy'n cynnwys golygfeydd o fyd y thêatr a'r ardaloedd adloniant poblogaidd yn nhrefi Siapan ac, yn ddiweddarach, tirluniau rhamantaidd.
Cyfeiria'r enw Ukiyo, sy'n golygu "y byd cyfnewidiol", neu yn fwy llythrennol "y byd sy'n arnofio", ar wyneb realiti fel petai, am nad yw'n parhau, neu "y pasiant sy'n mynd heibio", at y diwylliant ifanc newydd a flodeuai yn y trefi mawr fel Edo (Tokyo heddiw), Osaka, a Kyoto, a oedd yn fyd ar wahân yng nghymdeithas Siapan. Yn ogystal mae'n swnio'n union fel y gair ukio "Byd Trallod, Byd Trist" (憂き世), term a ddefnyddir gan Fwdhiaid Siapan i ddynodi'r byd daearol sy'n ynghlwm wrth eni a marwolaeth ac yn rhwystr i Oleuedigaeth. mwy... |
Erthyglau dewis
Tim Rishton - Le Morte d'Arthur - Gwenhwyfar - GIG Cymru - Anifeiliaid Hynaf - Llywodraeth y Deyrnas Unedig - Llanelli Wledig - Gwasanaeth Awyr Cymru - Athenry - Abaty Hendy-gwyn ar Daf - Brwydr Camlan - Historia Regum Britanniae - Cyfarwydd - Tysilio - Edwin, brenin Northumbria - Taleithiau Iwerddon - Rhestr o Gymunedau Cymru - Wallace & Gromit in The Curse of the Were-Rabbit - Plas Iolyn - The White Album - Ymgyrch Senedd i Gymru - Loire-Atlantique - Gwrth-imperialaeth - David Owen (Dewi Wyn o Eifion) - Traethodl - Cleiro - Les Choristes - Llyn Aled - Henry Purcell - Bhasha Andolon - Marchwiail Giuseppe di Stefano · Alain Robbe-Grillet · Roy Scheider · Phyllis A. Whitney |