Nodyn:Pigion/Wythnos 9
Oddi ar Wicipedia
Pigion
Dewi Sant yw nawddsant Cymru. Ni wyddom lawer amdano. Mae'n sicr iddo fyw yng Nghymru a'i fod yn chwarter Cymro o leiaf.
Yn ôl traddodiad cafodd ei eni yn Henfynyw ger Aberaeron, ond mae traddodiad arall yn cyfeirio at Capel Non, gerllaw Eglwys Gadeiriol Tyddewi heddiw. Ei fam oedd y santes Non a'i dad oedd Sandde brenin Ceredigion. Mae'n eithaf sicr iddo sefydlu ei abaty yn Nhyddewi (yr hen enw oedd Mynyw: Menevia) ac mae cyfeiriad at fynachlog yno mewn llawysgrif Wyddelig o tua'r flwyddyn 800. Enw arall ar y lle yw Glyn Rhosyn, sy'n gamgyfieithiad o'r Lladin vallis rosina sydd, o'i gyfieithu'n gywir, yn golygu cwm corsiog. mwy... |
Erthyglau dewis
Tim Rishton - Le Morte d'Arthur - Gwenhwyfar - GIG Cymru - Anifeiliaid Hynaf - Llywodraeth y Deyrnas Unedig - Llanelli Wledig - Gwasanaeth Awyr Cymru - Athenry - Abaty Hendy-gwyn ar Daf - Brwydr Camlan - Historia Regum Britanniae - Cyfarwydd - Tysilio - Edwin, brenin Northumbria - Taleithiau Iwerddon - Rhestr o Gymunedau Cymru - Wallace & Gromit in The Curse of the Were-Rabbit - Plas Iolyn - The White Album - Ymgyrch Senedd i Gymru - Loire-Atlantique - Gwrth-imperialaeth - David Owen (Dewi Wyn o Eifion) - Traethodl - Cleiro - Les Choristes - Llyn Aled - Henry Purcell - Bhasha Andolon - Marchwiail Giuseppe di Stefano · Alain Robbe-Grillet · Roy Scheider · Phyllis A. Whitney |