Mae hanes Ynys Manaw yn hanes dylanwadau o'r gwledydd o'i chwmpas, yn enwedig yr Alban a Lloegr, ac hefyd ddylanwadau Llychlynnaidd cryf. Daeth Ynys Manaw yn ynys tua 8500 o flynyddoedd yn ôl wrth i lefel y môr godi. Hyd hynny roedd cysyslltiad tir gydag ardal Cumbria. Ychydig o gofnodion hanesyddol sydd ar gael o'r cyfnodau cynnar pan ymddengys bod poblogaeth yn siarad iaith Frythonig yn byw yno. Cofnodir i Edwin, brenin Northumbria ymosod ar yr ynys yn 616. O gwmpas y 10fed ganrif ymsefydlodd gwladychwyr o Iwerddon a datblygodd Manaweg, sy'n iaith Oidelig tebyg i Wyddeleg. Yn ôl traddodiad, daeth Sant Maughold (Maccul) o Iwerddon a Christionogaeth i'r ynys. Credir fod enw'r ynys yn dod o enw duw môr y Celtiaid, Manannán mac Lir. mwy...