Pistyll
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan, plwyf a chymuned yn Llŷn, Gwynedd, yw Pistyll. Gorwedd ar arfodir gogleddol Llŷn, ar y ffordd B4417, ychydig i'r dwyrain o Nefyn.
Mae eglwys Pistyll, a gysegrir i Sant Beuno, yn sefydliad hynafol, gyda bedyddfaen or 12fed ganrif ynddi.
Heblaw pentref Pistyll, mae cymuned Pistyll yn cynnwys pentref mwy Llithfaen a phentref Nant Gwrtheyrn, sydd yn awr yn ganolfan ar gyfer dysgu Cymraeg.