Prif Weinidog India
Oddi ar Wicipedia
Yn ymarferol, Prif Weinidog India yw'r person â mwyaf o rym yn Llywodraeth India. Yn dechnegol, mae'r Arlywydd yn awdurdod uwch, ond swyddogaeth ddefodol sydd ganddo'n bennaf. Y Prif Weinidog, felly, sy'n arwain y Llywodraeth. Fel arfer, ef yw arweinydd y blaid neu glymblaid sydd â mwyafrif o aelodau'r Lok Sabha. Mae'n rhaid iddo fod yn aelod presennol o'r Lok Sabha neu'r Rajya Sabha, neu gael ei ethol o fewn chwe mis wedi cychwyn y swydd. Bu 14 Prif Weinidog hyd yma.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.