Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru
Oddi ar Wicipedia
Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yw enw'r rheilffordd sy'n cysylltu Caergybi ar Ynys Môn â dinas Crewe yng ngogledd-orllewin Lloegr. Agorwyd yr adran gyntaf yn 1840, rhwng Crewe a Chaer. Adeiladwyd gweddill y rheilffordd gan gwmni Rheilffordd Caer a Chaergybi o 1844 i 1850 fel rhan o wasanaeth yr Irish Mail i Ddulyn, Iwerddon. Ers Ebrill 2006, mae Network Rail yn ystyried y rheilffordd yn Drac 18 yn ei rwydwaith (Prif Reilffordd Arfordir y Gogledd).
[golygu] Prif drefi ar y rheilffordd
- Crewe (cysylltiadau i Warrington, Manceinion a Llundain)
- Caer (gwasnaethau i Wrecsam, Amwythig a Chaerdydd, ynghyd â Penbedw a Lerpwl)
- Shotton (Wrecsam a Bidston)
- Y Fflint
- Prestatyn
- Rhyl
- Abergele
- Bae Colwyn
- Cyffordd Llandudno (Rheilffordd Dyffryn Conwy i Landudno a Blaenau Ffestiniog)
- Conwy
- Penmaenmawr
- Llanfairfechan
- Bangor
- Llanfairpwll (hen drac i Amlwch)
- Bodorgan
- Tŷ Croes
- Rhosneigr
- Y Fali (trac nwyddau i orsaf niwclear Wylfa)
- Caergybi
[golygu] Pontydd
- Pont Reilffordd Conwy, Conwy, dros Afon Conwy
- Pont Britannia dros Afon Menai, yn cysylltu Môn a Gwynedd