Ryan Davies
Oddi ar Wicipedia
Canwr a chomedïwr oedd Ryan Davies (22 Ionawr 1937 - 22 Ebrill 1977). Dôi yn wreiddiol o Lanaman a pherfformiai yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ar ôl bod yn athro yn Llundain am flynyddoedd, daeth yn ôl i Gymru i weithio yn llawn amser fel canwr a chomedïwr. Gweithiai ar y cyd â Ronnie Williams. Roedd yn un o berfformwyr mwyaf poblogaidd ei ddydd, a bu ei farwolaeth sydyn yn ddeugain oed yn ysgytwad fawr yng Nghymru.
[golygu] Caneuon a Gyfansoddodd
- Ceiliog y Gwynt
- Nadolig Pwy a Ŵyr
- Blodwen a Mary
[golygu] Teledu
- Fo a Fe
- Ryan a Ronnie
[golygu] Ffilmiau
- Under Milk Wood