Selatyn
Oddi ar Wicipedia
Pentref a phlwyf ger Croesoswallt yng ngogledd-orllewin Swydd Amwythig, Lloegr, yw Selatyn. Mae'n gorwedd ar y ffin â Chymru ac mae ganddo gysylltiadau cryf â hanes a diwylliant Cymru.
Yn Selatyn ceir plasdy hynafol Brogyntyn, canolfan ystad fawr a chwareodd ran bwysig yn hanes gogledd Cymru yn y cyfnod modern a chartref i gasgliad pwysig o lawysgrifau Cymreig a ddiogelir heddiw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.