Solfach
Oddi ar Wicipedia
Pentref glan-môr ar Fae Sain Ffraid, yn Sir Benfro, yw Solfach (hefyd Solfa, Saesneg: Solva). Fe'i lleolir ar gilfach môr rhwng Tyddewi a St. Ann's Head, ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae ganddo harbwr ardderchog a bu'n ganolfan masnach arfordirol am ganrifoedd.
Mae hanes Solfach fel porthladd yn ymestyn yn ôl i'r 14eg ganrif o leiaf. Cyfeirir ato gan yr hynafiaethydd George Owen yn 1603. Erbyn 1811 roedd yna 36 o longau'n defnyddio'r porthladd gyda naw warws ar eu cyfer yn y pentref. Roedd nwyddau fel ŷd, barlys a phren yn cael eu hallforio i Fryste a deuai nwyddau cyffredinol yn ogystal â glo a chalch i mewn o Fryste, porthladdoedd De Cymru ac o mor bell i ffwrdd ag Iwerddon. Ond fel yn achos nifer o borthladdoedd bychain tebyg dirywiodd ei fasnach gyda dyfodiad y rheilffyrdd ganol y 19eg ganrif.
Cofnodir fod pobl wedi ymfudo i'r Unol Daleithiau o Solfach. Yn 1848 y pris am y fordaith oedd £3 i oedolion a 30 swllt i blant. Roedd y siwrnai'n cymryd rhwng 7 a 14 wythnos, gan ddibynnu ar y gwyntoedd a'r tywydd. Roedd y calch a fewnforid i Solfach yn cael ei losgi mewn odynnau yn y pentref a'i werthu wedyn i ffermydd ardal Tyddewi. Peidiwyd y gwaith ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Heddiw mae'r pentref yn ganolfan hwylio a gwyliau glan-môr poblogaidd. Mae Parc Arfordir Penfro yn rhedeg trwy'r pentref.
Mae gan y canwr Meic Stevens, sy'n enedigol o Solfa, gân adnabyddus am y pentref, Ysbryd Solfa.
[golygu] Ffynhonnell
- Christopher John Wright, A Guide to the Pembrokeshire Coast Path (Constable, 1986)
|
![]() |
---|---|
Abercastell | Abercych | Aberdaugleddau | Abereiddi | Abergwaun | Amroth | Angle | Arberth | Boncath | Brynberian | Caeriw | Camros | Casblaidd | Casnewydd Bach | Castell Gwalchmai | Castellmartin | Cilgerran | Cilgeti | Clunderwen | Crymych | Cwm yr Eglwys | Dale | Dinbych-y-Pysgod | Doc Penfro | East Williamston | Eglwyswrw | Hwlffordd | Llanbedr Efelffre | Llandudoch | Llandyfái | Llandysilio | Llanddewi Efelffre | Llanhuadain | Llanfyrnach | Llanwnda | Maenclochog | Maenorbŷr | Manordeifi | Marloes | Mathri | Mynachlog-ddu | Nanhyfer | Neyland | Penfro | Pontfaen | Rosebush | Rudbaxton | Saundersfoot | Solfach | Stepaside | Trefdraeth | Trefin | Treletert | Tyddewi | Wdig |