Tŷ'r Cyffredin (Canada)
Oddi ar Wicipedia
Siambr isaf Senedd Canada yw Tŷ'r Cyffredin (Saesneg House of Commons, Ffrangeg Chambre des communes). Mae'r tŷ yn cynnwys 308 o aelodau (aelodau seneddol neu ASau), wedi eu hethol yn ddemocrataidd drwy system 'y cyntaf i'r felin'. Etholir aelodau am gyfnod o bum mlynedd neu lai os yw'r tŷ yn cael ei ddatod ynghynt na hynny. Mae pob aelod yn cynrhychioli un etholaeth (Saesneg ridings neu constituencies, Ffrangeg circonscriptions neu comtés).
Sefydlwyd Tŷ'r Cyffredin ym 1867, pan luniwyd Dominiwn Canada o dan Deddf Gogledd America Prydeinig 1867 (British North America Act 1867). Dilynodd y tŷ batrwm Tŷ'r Cyffredin ym Mhrydain.
Cynnwys presennol Tŷ'r Cyffredin yw:
Rhanbarth neu diriogaeth | |||||||||||||||
Plaid | BC | AB | SK | MB | ON | QC | NB | NS | PE | NL | YK | NT | NU | Cyfanswm | |
Plaid Geidwadol | * | 18 | 28 | 12 | 8 | 41 | 11 | 3 | 2 | 3 | 126 | ||||
Plaid Ryddfrydol | * | 7 | 1 | 3 | 51 | 12 | 6 | 6 | 4 | 4 | 1 | 1 | 96 | ||
Bloc Québécois | * | 49 | 49 | ||||||||||||
New Democratic Party | * | 10 | 3 | 12 | 1 | 1 | 2 | 1 | 30 | ||||||
Annibynnol | 2 | 1 | 3 | ||||||||||||
Gwag | 1 | 1 | 2 | 4 | |||||||||||
Cyfanswm | 36 | 28 | 14 | 14 | 106 | 75 | 10 | 11 | 4 | 7 | 1 | 1 | 1 | 308 |