Tanwg
Oddi ar Wicipedia
Sant a oedd yn fab i Ithael Hael, a ffoes o Lydaw i Gymru gydag Emyr Llydaw yn ôl traddodiad, oedd Tanwg (fl. 6ed ganrif).
Ychydig iawn a wyddys am y dyn ei hun. Dywedir ei fod wedi astudio yng nghlas enwog Ynys Enlli. Roedd yn frawd i ddau sant arall, Gredifael (Penmynydd) a Fflewyn (a gysylltir â Llanrhuddlad ym Môn. Mae rhai achau yn ei wneud yn frawd i'r seintiau Tecwyn, Tegai, Trillo, Twrog, Baglan a Llechid yn ogystal. Dywedir fod Tanwg wedi dod i'r ardal yng nghwmni'r sant Cadfan, a sefydlodd clas Tywyn.
Sefydlodd Llandanwg yn Ardudwy, Gwynedd. Ar un adeg roedd eglwysi Harlech a Llanbedr yn gysegredig iddo hefyd.
[golygu] Cyfeiriadau
- T. D. Berverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000)