Tegai
Oddi ar Wicipedia
Sant o Gymro oedd Tegai neu Tygái (fl. 6ed ganrif). Ef yw sefydlwr traoddiadol a nawddsant plwyf Llandygái, yn Arllechwedd, Gwynedd. Ceir amrysedd ynglŷn â'r ffurf gywir ar ei enw. Ceir y ddwy ffurf, Tegai a Tygái, yn yr achau. Ceir y ffurf Tegau fel enw merch (cf. Tegau Eurfron).
Dywed traddodiad ei fod yn fab i Ithel Hael (Ithael Hael). Ceir dwy achrestr o blant Ithel. Yn y gyntaf cyfeirir at y seintiau Tanwg, Gredifael, a Fflewyn fel plant iddo. Cysylltir yr rhain â Gwynedd. Mae'r achrestr arall yn ei wneud yn frawd i'r seintiau Fflewyn, Tecwyn, Trillo, Twrog, Llechid, a Baglan.
Sefydlodd Tegai eglwys Llandegai/Llandygái, ger Bangor, mewn llecyn a elwir yn Faes Glasawg mewn hen gofnodion. Yn ôl traddodiad roedd ganddo drigfan ym Maes y Llan, gerllaw'r eglwys bresennol. Cedwir darnau o groes sy'n dwyn ei enw ac arch garreg yn yr eglwys.
Ceir llecyn o'r enw Cors Dygái ym mhlwyf Llangristiolus lle bu gan y sant gell feudwy, yn ôl traddodiad.
[golygu] Ffynonnellau
- T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2001).