Teulyddog
Oddi ar Wicipedia
Sant Cymreig oedd Teulyddog (Lladin: Toulidauc neu Thelaucus, fl. 6ed ganrif). Yn ôl traddodiad yr oedd yn ddisgybl i Sant Dyfrig.
Dywedir y ffoes Teulyddog gyda Dyfrig i Lydaw i ddianc rhag y Pla Melyn. Credir i Deulyddog sefydlu clas Llandeulyddog o fewn muriau'r hen dref Rufeinig Maridunum (safle Caerfyrddin heddiw). Yn ddiweddarach rhoddwyd tir y clas i Briordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog lle ysgrifenwyd Llyfr Du Caerfyrddin, yn ôl pob tebyg.
[golygu] Ffynhonnell
- T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000)