Thomas Malory
Oddi ar Wicipedia
Awdur y fersiwn bwysicaf o'r chwedlau am y brenin Arthur yn y traddodiad Seisnig, Le Morte d'Arthur, oedd Syr Thomas Malory (c. 1405 – 14 Mawrth, 1471).
Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am Malory. Credai yr hynafiaethydd John Leland (1506–1552) mai Cymro ydoedd, ond barn y rhan fwyaf o ysgolheigion heddiw yw ei fod yr un person a'r Sir Thomas Malory o Newbold Revel yn Swydd Warwick.
Bu'n aelod o'r Senedd, ond cafodd hefyd ei gyhuddo o amrywiol ddrwgweithredoedd. Dihangodd o'r carchar o leiaf ddwywaith, ac ni chfodd ei roi ar brawf erioed ar y cyhuddiadau yn ei erbyn. Cred rhai ei fod yn offeiriad.