Tim Benjamin
Oddi ar Wicipedia
Athletwr Cymreig yw Timothy Benjamin (ganwyd 2 Mai 1982, Caerdydd) sy'n arbenigo fel rhedwr 400 medr.
Fel glaslanc, enillodd nifer o deitlau iau, gan gynnwys Pencampwriaeth Athletau Iau y Byd ym 1999. Enillodd fedal arian fel aelod o dîm Cymru yn y ras gyfnewid 4x400m yng Ngemau'r Gymanwlad ym Manceinion ym 2002 (gyda Iwan Thomas, Jamie Baulch a Matthew Elias). Daeth yn bumed ym Mhencampwriaethau'r Byd ym 2005, a chweched ym Mhencampwriaethau Ewrop 2006. Bu rhaid iddo dynnu allan oherwydd anafiad o Gemau'r Gymanwlad ym Melbourne (2006), lle disgwylwyd iddo fod yn heriwr cryf dros fedal aur.