Defnyddiwr:Tivedshambo/Pigeon
Oddi ar Wicipedia
Diwydiant llechi Cymru
Dechreuodd diwydiant llechi Cymru yn y cyfnod Rhufeinig, pan ddefnyddiwyd llechi ar do caer Segontium, Caernarfon. Tyfodd y diwydiant yn araf hyd ddechrau’r 18fed ganrif, yna bu tŵf cyflym hyd ddiwedd y 19eg ganrif. Roedd yr ardaloedd cynhyrchu llechi pwysicaf yng ngogledd-orllewin Cymru, gan gynnwys Chwarel y Penrhyn ger Bethesda, Chwarel Dinorwig ger Llanberis, Dyffryn Nantlle a Blaenau Ffestiniog, lle roedd y llechi yn dod o gloddfeydd tanddaearol yn hytrach na chwareli agored. Penrhyn a Dinorwig oedd y ddwy chwarel lechi fwyaf yn y byd, a Chwarel yr Oakeley ym Mlaenau Ffestiniog oedd y gloddfa lechi fwyaf yn y byd. Defnyddir llechi yn bennaf ar doeau, ond mae darnau mwy trwchus o lechfaen yn cael eu defnyddio ar gyfer lloriau, byrddau gwaith a beddfeini ymhlith pethau eraill.
Hyd at ddiwedd y ddeunawfed ganrif, cynhyrchid y llechi gan griwiau bach o chwarelwyr oedd yn talu i’r tirfeddiannwr am gael defnyddio’r chwareli. Byddent yn cario’r llechi i’r porthladdoedd ar gefnau ceffylau neu mewn certi, ac yna yn eu hallforio i Loegr, Iwerddon ac weithiau Ffrainc. Tua diwedd y ganrif, dechreuodd y tirfeddianwyr mawr weithio’r chwareli eu hunain, ar raddfa fwy. Wedi i’r llywodraeth wneud i ffwrdd â'r dreth ar lechi yn 1831, tyfodd y diwydiant yn gyflym a datblygwyd rheilffyrdd cul i gario’r llechi i’r porthladdoedd. mwy...
Sahara
Y Sahara yw'r anialwch neu ddiffeithiwch mwyaf yn y byd. Mae'n cyfateb i faint yr Unol Daleithiau, yn ymestyn rhyw 5000 km ar draws gogledd Affrica o'r Môr Iwerydd yn y gorllewin i'r Môr Coch yn y dwyrain. Does ond ychydig o fywyd yn y diffeithiwch ei hunan a cheir y rhan fwyaf o'r bywyd sydd ynddo yn yr ardal a elwir Sahel sef yr ardal sydd yn ymestyn ar draws y cyfandir ar ochr ddeheuol y Sahara ac hefyd ar y rhimyn gogleddol. Fel y teithir fwy fwy i'r de fe wna'r coed, y llwyni a bywyd yn gyffredinol amlhau.
Nid tywod yn unig yw'r Sahara. Mae rhannau enfawr yn cael ei orchuddio gan raean garw, gyda llawer o'r graig a'r cerrig yn dod o'r lafa a ddaeth unwaith o'r mynyddoedd tân. mwy...
Caerdydd
Caerdydd yw dinas fwyaf a phrifddinas Cymru. Roedd Caerdydd yn dref fechan tan flynyddoedd cynnar y 19eg ganrif. Tyfodd yn gyflym gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol ac yn arbennig pan gysylltwyd y cymoedd â rheilffyrdd fel y gellid allforio glo o'r porthladd. Yn 1851 'roedd poblogaeth Caerdydd yn 20,000 ond erbyn 1911 roedd yn 182,000 ac erbyn 1991 roedd yn 269,000. Yn 1891 roedd Caerdydd yn allforio 708,000 o dunelli o lo: erbyn 1911 roedd yr allforion yn 10 miliwn tunnell.
Roedd porthladd Caerdydd yn cael ei adnabod fel Tiger Bay, ac ar un adeg hwn oedd un o borthladdoedd mwyaf prysur y byd. Ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, mae'r ardal wedi cael ei hadnewyddu fel Bae Caerdydd. Gobeithir y daw yn ardal boblogaidd ar gyfer y celfyddydau, bywyd nos ac adloniant. Daw'r twf aruthrol yma ar ôl adeiladu argae ar draws y bae, gan greu llyn enfawr.Yr oedd hyn yn ddadleuol iawn ar y pryd, ac yr oedd hefyd yn ofid fod y gymuned leol a oedd yn bodoli yn Tiger Bay yn cael ei chwalu. Ym Mae Caerdydd yr ymsefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yno mae Canolfan y Mileniwm sydd yn gartref i Urdd Gobaith Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru yn ogystal â Stadiwm y Mileniwm. mwy...
Ukiyo-e
Mae Ukiyo-e (Siapaneg 浮世絵), sef "lluniau o'r byd cyfnewidiol", yn genre o brintiau bloc pren a lluniau Nikuhitsuga a gynhyrchid yn Siapan o'r 17fed ganrif hyd ddechrau'r 20fed ganrif, sy'n cynnwys golygfeydd o fyd y thêatr a'r ardaloedd adloniant poblogaidd yn nhrefi Siapan ac, yn ddiweddarach, tirluniau rhamantaidd.
Cyfeiria'r enw Ukiyo, sy'n golygu "y byd cyfnewidiol", neu yn fwy llythrennol "y byd sy'n arnofio", ar wyneb realiti fel petai, am nad yw'n parhau, neu "y pasiant sy'n mynd heibio", at y diwylliant ifanc newydd a flodeuai yn y trefi mawr fel Edo (Tokyo heddiw), Osaka, a Kyoto, a oedd yn fyd ar wahân yng nghymdeithas Siapan. Yn ogystal mae'n swnio'n union fel y gair ukio "Byd Trallod, Byd Trist" (憂き世), term a ddefnyddir gan Fwdhiaid Siapan i ddynodi'r byd daearol sy'n ynghlwm wrth eni a marwolaeth ac yn rhwystr i Oleuedigaeth. mwy...
Morgan Llwyd
Bardd, llenor rhyddiaith a chyfrinydd oedd Morgan Llwyd (1619 – 3 Mehefin 1659), a gafodd ei eni yng Nghynfal-fawr (hen blasdy gwledig, filltir i'r de o Ffestiniog) ym mhlwyf Maentwrog yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd heddiw), i'r un teulu â'r bardd Huw Llwyd. Fe'i gelwir weithiau Morgan Llwyd o Wynedd. Roedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg ac ysgrifenodd ambell destun Saesneg yn ogystal. Roedd yn Biwritan argyhoeddedig a digyfaddawd ond ni pherthyn iddo'r culni meddwl a gysylltir â'r mudiad crefyddol hwnnw. Enwir Ysgol Morgan Llwyd, ysgol gyfrwng Gymraeg Wrecsam a'r cylch, ar ei ôl. Enillodd Crwys Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1919 am ei awdl 'Morgan Llwyd o Wynedd'. mwy...
Cromlech
Cofadail cynhanesyddol o feini mawr yw cromlech (gair Cymraeg sydd wedi'i fenthyg i'r Saesneg; defnyddir yr enw Llydaweg cyfatebol dolmen yn amlach yn yr iaith honno a rhai ieithoedd eraill lle mae'n gallu golygu unrhyw gofadail megalithig a siambrau claddu yn gyffredinol). Codwyd y rhan fwyaf ohonynt yn Oes Newydd y Cerrig (y Neolithig).
Yn wreiddiol roedd meini'r gromlech yn ffurfio siambr yng nghanol siambr gladdu neolithig ond ar ôl i'r cerrig a phridd a godwyd drostynt gael eu herydu neu eu dwyn i ffwrdd dim ond y meini mawr sy'n aros. mwy...
Abaty Tyndyrn
Sefydlwyd Abaty Tyndyrn (Saesneg: Tintern Abbey) gan Walter de Clare, Arglwydd Cas-gwent, ar 9 Mai, 1131. Lleolir hi ar lan yr Afon Gwy yn Sir Fynwy, hon oedd ond yr ail sefydliad Sistersaidd ym Mhrydain a'r cyntaf yng Nghymru. Mae'n un o'r adfeilion mwyaf ysblennydd yn y wlad, a ysbrydolodd nifer o gampweithiau; cerdd Tintern Abbey gan William Wordsworth; cerdd Abaty Tyndyrn gan John Blackwell (Alun); nifer o baentiadau gan J. M. W. Turner; ceir yn ogystal band o'r enw "Tintern Abbey".
Roedd Walter de Clare, o deulu pŵerus de Clare, hefyd yn perthyn drwy briodas i'r Esgob William o Gaer-wynt, a gyflwynodd y drefedigaeth gyntaf o Sistersiaid i Waverley yn 1128. Daeth y mynaich i Dyndyrn o dŷ cangen Cîteaux, L'Aumône, yn esgobaeth Blois, Ffrainc. mwy...
Y Môr Du
Môr sy'n gorwedd rhwng de-ddwyrain Ewrop ac Asia Leiaf ydy'r Môr Du (Pontus Euxinus y Groegiaid). Mae'n cysylltu â'r Môr Canoldir trwy gulfor Bosporus a Môr Marmara, ac â Môr Azov trwy Gulfor Kerch.
Trwy'r Bosporus mae 200 km² o ddŵr hallt yn llifo i mewn i'r Môr Du bob blwyddyn, ac mae tua 320 km² o ddŵr ffres y flwyddyn yn dod o'r ardaloedd o gwmpas y Môr Du, yn bennaf o ddwyrain a chanolbarth Ewrop. Yr afon fwyaf sydd yn llifo i'r Môr Du yw Afon Donaw. Maint arwynebedd y Môr Du yw 422,000 km², a'i ddyfnder mwyaf yw 2210m.
Y gwledydd o gwmpas y Môr Du yw Twrci, Bwlgaria, Romania, Wcráin, Rwsia a Georgia. Gweriniaeth hunanlywodraethol sydd yn perthyn i'r Wcráin yw'r Crimea. mwy...
Dewi Sant
Dewi Sant yw nawddsant Cymru. Ni wyddom lawer amdano. Mae'n sicr iddo fyw yng Nghymru a'i fod yn chwarter Cymro o leiaf.
Yn ôl traddodiad cafodd ei eni yn Henfynyw ger Aberaeron, ond mae traddodiad arall yn cyfeirio at Capel Non, gerllaw Eglwys Gadeiriol Tyddewi heddiw. Ei fam oedd y santes Non a'i dad oedd Sandde brenin Ceredigion.
Mae'n eithaf sicr iddo sefydlu ei abaty yn Nhyddewi (yr hen enw oedd Mynyw: Menevia) ac mae cyfeiriad at fynachlog yno mewn llawysgrif Wyddelig o tua'r flwyddyn 800. Enw arall ar y lle yw Glyn Rhosyn, sy'n gamgyfieithiad o'r Lladin vallis rosina sydd, o'i gyfieithu'n gywir, yn golygu cwm corsiog. mwy...
Hanes Ynys Manaw
Mae hanes Ynys Manaw yn hanes dylanwadau o'r gwledydd o'i chwmpas, yn enwedig yr Alban a Lloegr, ac hefyd ddylanwadau Llychlynnaidd cryf. Daeth Ynys Manaw yn ynys tua 8500 o flynyddoedd yn ôl wrth i lefel y môr godi. Hyd hynny roedd cysyslltiad tir gydag ardal Cumbria. Ychydig o gofnodion hanesyddol sydd ar gael o'r cyfnodau cynnar pan ymddengys bod poblogaeth yn siarad iaith Frythonig yn byw yno. Cofnodir i Edwin, brenin Northumbria ymosod ar yr ynys yn 616. O gwmpas y 10fed ganrif ymsefydlodd gwladychwyr o Iwerddon a datblygodd Manaweg, sy'n iaith Oidelig tebyg i Wyddeleg. Yn ôl traddodiad, daeth Sant Maughold (Maccul) o Iwerddon a Christionogaeth i'r ynys. Credir fod enw'r ynys yn dod o enw duw môr y Celtiaid, Manannán mac Lir. mwy...
Owain Glyndŵr
Yn ddisgynydd i dywysogion Powys, Owain Glyndŵr neu Owain ap Gruffudd (1354-c.1416) oedd y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru.
Sycharth, ger Llansilin, Powys oedd ei etifeddiaeth; trwy ei fam roedd yn hawlio tiroedd Rhys ap Gruffydd, (yr Arglwydd Rhys). Astudiodd y gyfraith yn Llundain, a gwasanaethodd gyda lluoedd Henry Bolingbroke, gwrthwynebwr Rhisiart II, brenin Lloegr, a fyddai'n ddiweddarach Harri IV, brenin Lloegr.
Fe sylweddolodd fod gormes Lloegr yn difa'r economi Gymreig ac yn sbarduno atgasedd at y Saeson. mwy...
T.B.A. (12)
Sylfaenydd y Blaid Geidwadol fodern oedd Syr Robert Peel (5 Chwefror 1788 – 2 Gorffennaf 1850), Prif Weinidog y Deyrnas Unedig rhwng Rhagfyr 1834, ac Ebrill 1835 a rhwng Awst 1841, a Mehefin 1846. Diwydiannwyr oedd ei deulu, a chafodd ei ddisgrifio gyda chryn snobyddiaeth gan Ddug Wellington fel dyn o "low birth and vulgar manners."
Nid oedd pleidiau gwleidyddol ffurfiol i'w cael ym mlynyddoedd cynnar y 19eg ganrif, ond roedd dwy brif garfan yn y Senedd, sef y Chwigiaid a'r Torïaid. Er bod y ddwy garfan yn geidwadol iawn wrth safonau heddiw, roedd y Chwigiaid fel arfer yn fwy cefnogol i newid. Roedd yn Torïaid yn canolbwyntio'n draddodiadol ar amddiffyn Eglwys Loegr rhag Catholigiaeth ac Anghydffurfiaeth, ac ar amddiffyn buddiannau tirfeddianwyr cefn gwlad rhag masnachwyr y trefi. Roedd Robert Peel yn un o'r Torïaid cyntaf i sylweddoli bod rhaid i hyn newid er mwyn i Dorïaeth oroesi. mwy...
T.B.A. (13)
Nodyn:Pigion/Wythnos 13
T.B.A. (14)
Nodyn:Pigion/Wythnos 14
T.B.A. (15)
Nodyn:Pigion/Wythnos 15
T.B.A. (16)
Nodyn:Pigion/Wythnos 16
T.B.A. (17)
Nodyn:Pigion/Wythnos 17
T.B.A. (18)
Nodyn:Pigion/Wythnos 18
T.B.A. (19)
Nodyn:Pigion/Wythnos 19
T.B.A. (20)
Nodyn:Pigion/Wythnos 20
T.B.A. (21)
Nodyn:Pigion/Wythnos 21
T.B.A. (22)
Nodyn:Pigion/Wythnos 22
T.B.A. (23)
Nodyn:Pigion/Wythnos 23
T.B.A. (24)
Nodyn:Pigion/Wythnos 24
T.B.A. (25)
Nodyn:Pigion/Wythnos 25
T.B.A. (26)
Nodyn:Pigion/Wythnos 26
T.B.A. (27)
Nodyn:Pigion/Wythnos 27
T.B.A. (28)
Nodyn:Pigion/Wythnos 28
T.B.A. (29)
Nodyn:Pigion/Wythnos 29
T.B.A. (30)
Nodyn:Pigion/Wythnos 30
T.B.A. (31)
Nodyn:Pigion/Wythnos 31
T.B.A. (32)
Nodyn:Pigion/Wythnos 32
T.B.A. (33)
Nodyn:Pigion/Wythnos 33
T.B.A. (34)
Nodyn:Pigion/Wythnos 34
T.B.A. (35)
Nodyn:Pigion/Wythnos 35
T.B.A. (36)
Nodyn:Pigion/Wythnos 36
T.B.A. (37)
Nodyn:Pigion/Wythnos 37
T.B.A. (38)
Nodyn:Pigion/Wythnos 38
T.B.A. (39)
Nodyn:Pigion/Wythnos 39
T.B.A. (40)
Nodyn:Pigion/Wythnos 40
T.B.A. (41)
Nodyn:Pigion/Wythnos 41
T.B.A. (42)
Nodyn:Pigion/Wythnos 42
T.B.A. (43)
Nodyn:Pigion/Wythnos 43
T.B.A. (44)
Nodyn:Pigion/Wythnos 44
T.B.A. (45)
Nodyn:Pigion/Wythnos 45
T.B.A. (46)
Nodyn:Pigion/Wythnos 46
Yr Wyddfa
Mynydd uchaf Cymru, a'r mynydd uchaf ym Mhrydain i'r de o Ucheldiroedd yr Alban, yw'r Wyddfa (1,085m/3,560 troedfedd).
Fe'i ceir ym Mharc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd; y copa yw canolbwynt ardal draddodiadol Eryri. Mae trên bach Rheilffordd Eryri yn dringo i gopa'r Wyddfa o Lanberis i'r rhai nad ydynt am gerdded i fyny. Adeiladwyd y lein yn 1896. Ar y copa ceir bwyty a siop sydd wrthi'n cael eu hadnewyddu.
Mae tua 350,000 o bobl yn cerdded i gopa'r Wyddfa bob blwyddyn, a thua 60,000 arall yn cyrraedd y copa ar y trên bach. Ceir golygfeydd o ardal eang o'r copa; nid yn unig ran helaeth o ogledd a chanolbarth Cymru ond ar ddiwrnod clir Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr. Yr olyfga bellaf rhwng dau bwynt ar ynys Prydain, mewn theori, yw'r olygfa rhwng copa'r Wyddfa a chopa Merrick yn ne yr Alban, pellter o 144 milltir (232 km). mwy...
Ensym
Sylweddau sy'n cataleiddio (h.y. cyflymu) adwaith cemegol|adweithiau cemegol mewn organebau byw yw ensymau. Yn yr adweithiau hyn, gelwir y moleciwlau ar ddechrau yr adwaith yn swbstrad, ac mae'r ensym yn eu trawsnewid yn foleciwlau gwahanol, sef y cynnyrch, heb newid y strwythur ei hun yn ystod y broses. Mae angen ensymau ar gyfer bron pob proses mewn cell er mwyn iddynt weithio ar raddfa sylweddol. Gan fod ensymau'n hynod o ddetholiadol ac yn cyflymu ond ychydig o adweithiau ymysg nifer o bosibiliadau, mae'r set o ensymau mewn cell yn penderfynu llwybr metabolaidd cynnwys y gell. mwy...
Penmaenmawr
Mae Penmaenmawr yn dref ym mhlwyf Dwygyfylchi, yng ngogledd-orllewin Sir Conwy (hen Sir Gaernarfon), gogledd Cymru, poblogaeth tua 4,000. Mae'n dref glan môr sydd wedi tyfu o gwmpas y chwarel, ond nid oes llawer o bobl yn gweithio yn y chwarel bellach. Mae'n sefyll ar arfordir y gogledd rhwng tref Conwy a Bangor, ar yr A55. Mae ganddi orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae iddi dri ward, pob un a'i gymeriad ei hun; Penmaenan yn y gorllewin, Pant-yr-afon yn y canol a phentref Dwygyfylchi yn y gorllewin.
Bu newid mawr yn sgîl creu'r lôn ddeuol newydd, yr "Expressway" (A55) yn y 1980au, pan gollodd y dref ran helaeth o'i phromenâd cyfnod Edwardaidd oedd yn boblogaidd gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, ond codwyd un newydd yn ei le. Mae Penmaenmawr yn nodedig am ei llwybrau cerdded ar y bryniau a'i golygfeydd hardd. Mae Bwlch Sychnant yn denu ymwelwyr, ac mae rhan o'r dref yn gorwedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri. mwy...
William Shakespeare
Bardd a dramodydd Saesneg oedd William Shakespeare (c. 23 Ebrill 1564 - 23 Ebrill 1616), a anwyd yn Stratford-upon-Avon.
Nid oes tystiolaeth i brofi pa ysgol fynychodd Shakespeare, ond gwyddys ei fod wedi mynd i King Edward VI Grammar School lle byddai wedi dysgu'r rhan fwyaf o'r technegau sydd eu hangen i ysgrifennu.
Fe briododd Shakespeare Anne Hathway, o Stratford, pan nad oedd ef ond yn 18 mlwydd oed. Does dim llawer o hanes i gael am William Shakespeare yn ystod y 1580au, felly cyfeirir at y cyfnod hwnnw fel "y blynyddoedd coll".
Erbyn 1592 roedd Shakespeare yn wyneb cyfarwydd mewn cylchoedd llenyddol. Roedd yn un o berchenogion cwmni drama'r Lord Chamberlain's Men yn 1594 (newidiwyd yr enw i The King's Men ar ôl coroni Iago I). Cyfansoddodd 38 drama. Bu farw Shakespeare yn 52 oed. Cafodd dri o blant, Hamnet, Judith a Susannah. mwy...
Nicole Cooke
Seiclwraig rasio proffesiynol yw Nicole Cooke (ganwyd 13 Ebrill 1983, Abertawe), mae hi'n byw yn Lugano, y Swistir.
Magwyd Cooke yn Y Wig, Bro Morgannwg, dechreuodd seiclo yn ifanc. Yn unarbymtheg oed, enillodd ei theitl cenedlaethol hyn cyntaf. Yn 2001 cafodd ei gwobrwyo gyda'r Bidlake Memorial Prize, a roddwyd ar gyfer perfformiadau diarhebol neu gyfraniad i welliant seiclo. Enillodd bedair teitl y byd iau, yn cynnwys un ym Mhortiwgal yn 2001.
Cystadleuodd yng Ngemau'r Gymanwlad 2002, ac enillodd y ras ffordd merched mewn diwedd sbrint syfrdanol. Cafodd ei enwebu ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraewr y Flwyddyn BBC Cymru. mwy...
Nadolig
Gŵyl Gristnogol flynyddol yw'r Nadolig, sy'n dathlu genedigaeth Iesu Grist. Mae nifer o arferion yn gysylltiedig gyda'r Nadolig, sydd wedi cael eu dylanwadu gan wyliau cynharach y gaeaf. Mae'r dyddiad yn ben-blwydd traddodiadol Crist, er nad yw'n cael ei ystyried i fod yn wir ddyddiad ei ben-blwydd.
Yn y rhan fwyaf o wledydd y byd, dethlir y Nadolig ar y 25 Rhagfyr. Yr enw a roddir i'r diwrnod o'r flaen yw Noswyl y Nadolig (24 Rhagfyr). Ym Mhrydain a nifer o wledydd y Gymanwlad dethlir Gŵyl San Steffan ar y diwrnod canlynol, 26 Rhagfyr: Gŵyl San Steffan yw'r enw ar y diwrnod yn Nghymru ac mewn nifer o wledydd Catholig, a Boxing Day yw'r enw yn Saesneg. Mae hon yn ŵyl banc yn y Deyrnas Unedig (yn cynnwys Gogledd Iwerddon). Mae Eglwys Apolistaidd Armenia yn dathlu'r Nadolig ar 6 Ionawr tra bod rhai Eglwysi Uniongred Dwyreiniol hynafol yn ei ddathlu ar 7 Ionawr, y dyddiad yn ôl Calendr Gregori sy'n cyfateb i'r 25 Rhagfyr yng Nghalendr Julian. mwy...
Nadolig (2)
Gŵyl Gristnogol flynyddol yw'r Nadolig, sy'n dathlu genedigaeth Iesu Grist. Mae nifer o arferion yn gysylltiedig gyda'r Nadolig, sydd wedi cael eu dylanwadu gan wyliau cynharach y gaeaf. Mae'r dyddiad yn ben-blwydd traddodiadol Crist, er nad yw'n cael ei ystyried i fod yn wir ddyddiad ei ben-blwydd.
Yn y rhan fwyaf o wledydd y byd, dethlir y Nadolig ar y 25 Rhagfyr. Yr enw a roddir i'r diwrnod o'r flaen yw Noswyl y Nadolig (24 Rhagfyr). Ym Mhrydain a nifer o wledydd y Gymanwlad dethlir Gŵyl San Steffan ar y diwrnod canlynol, 26 Rhagfyr: Gŵyl San Steffan yw'r enw ar y diwrnod yn Nghymru ac mewn nifer o wledydd Catholig, a Boxing Day yw'r enw yn Saesneg. Mae hon yn ŵyl banc yn y Deyrnas Unedig (yn cynnwys Gogledd Iwerddon). Mae Eglwys Apolistaidd Armenia yn dathlu'r Nadolig ar 6 Ionawr tra bod rhai Eglwysi Uniongred Dwyreiniol hynafol yn ei ddathlu ar 7 Ionawr, y dyddiad yn ôl Calendr Gregori sy'n cyfateb i'r 25 Rhagfyr yng Nghalendr Julian. mwy...
Links
- Nodyn:Pigion/Wythnos 1
- Nodyn:Pigion/Wythnos 2
- Nodyn:Pigion/Wythnos 3
- Nodyn:Pigion/Wythnos 4
- Nodyn:Pigion/Wythnos 5
- Nodyn:Pigion/Wythnos 6
- Nodyn:Pigion/Wythnos 7
- Nodyn:Pigion/Wythnos 8
- Nodyn:Pigion/Wythnos 9
- Nodyn:Pigion/Wythnos 10
- Nodyn:Pigion/Wythnos 11
- Nodyn:Pigion/Wythnos 12
- Nodyn:Pigion/Wythnos 13
- Nodyn:Pigion/Wythnos 14
- Nodyn:Pigion/Wythnos 15
- Nodyn:Pigion/Wythnos 16
- Nodyn:Pigion/Wythnos 17
- Nodyn:Pigion/Wythnos 18
- Nodyn:Pigion/Wythnos 19
- Nodyn:Pigion/Wythnos 20
- Nodyn:Pigion/Wythnos 21
- Nodyn:Pigion/Wythnos 22
- Nodyn:Pigion/Wythnos 23
- Nodyn:Pigion/Wythnos 24
- Nodyn:Pigion/Wythnos 25
- Nodyn:Pigion/Wythnos 26
- Nodyn:Pigion/Wythnos 27
- Nodyn:Pigion/Wythnos 28
- Nodyn:Pigion/Wythnos 29
- Nodyn:Pigion/Wythnos 30
- Nodyn:Pigion/Wythnos 31
- Nodyn:Pigion/Wythnos 32
- Nodyn:Pigion/Wythnos 33
- Nodyn:Pigion/Wythnos 34
- Nodyn:Pigion/Wythnos 35
- Nodyn:Pigion/Wythnos 36
- Nodyn:Pigion/Wythnos 37
- Nodyn:Pigion/Wythnos 38
- Nodyn:Pigion/Wythnos 39
- Nodyn:Pigion/Wythnos 40
- Nodyn:Pigion/Wythnos 41
- Nodyn:Pigion/Wythnos 42
- Nodyn:Pigion/Wythnos 43
- Nodyn:Pigion/Wythnos 44
- Nodyn:Pigion/Wythnos 45
- Nodyn:Pigion/Wythnos 46
- Nodyn:Pigion/Wythnos 47
- Nodyn:Pigion/Wythnos 48
- Nodyn:Pigion/Wythnos 49
- Nodyn:Pigion/Wythnos 50
- Nodyn:Pigion/Wythnos 51
- Nodyn:Pigion/Wythnos 52
- Nodyn:Pigion/Wythnos 53