Toulouse
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn ne-orllewin Ffrainc yw Toulouse (Ocitaneg: Tolosa), yn préfecture Haute-Garonne a région Midi-Pyrénées. Yn 2007, roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 443,103 a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 1,117,000, gan wneud Toulouse y bedwaredd dinas yn Ffrainc o ran poblogaeth. Mae'r boblogaeth yn tyfu'n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn Ewrop. Gelwir y ddinas y ville rose oherwydd lliw y brics traddodiadol. Saif y ddinas ar Afon Garonne.
Yn Toulose mae prif ganolfan cwmni Airbus, ac mae llawer o ddiwydiannau technolegol eraill wedi datblygu yma. Ym maes chwaraeon, Rygbi'r Undeb sydd fwyaf poblogaidd yn yr ardal, ac mae tîm rygbi Toulouse, Stade toulousain, ymhlith y cryfaf yn Ewrop. Ymhlith pobl enwog o Toulouse mae rhai o chwaraewyr rygbi amlycaf Ffrainc, megis Jean-Pierre Rives, David Skrela, Fabien Pelous a Frédéric Michalak.