Tour of Britain
Oddi ar Wicipedia
Tour of Britain (Cymraeg Taith Prydain) yw'r enw a roddir i ras seiclo ffordd a gynhelir dros sawl cymal ac sy'n mynd ar daith ar draws Prydain Fawr. Mae'r ras yn cynnwys tîmau o'r Alban a Chymru, yn ogystal a thîm Prydain Fawr, ond yn ddiweddar nid oes dim tîm Lloegr wedi cymryd rhan yn y ras. Mae'r fersiwn diweddaraf o'r ras yn ras cymalau broffesiynol, a redwyd gyntaf yn 2004, ond mae hanes y ras yn mynd yn ôl i 1951.
Mae'r Tour of Britain yn rhan o 'UCI Europe Tour'.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Gan nodi cyfraniad pob noddwr ariannol, mae'r ras wedi newid ei henw sawl gwaith ar hyd y blynyddoedd:
-
- Enillodd yr Albanwr Ian Steel ras 1951. Seiclwr arall i rasio y flwyddyn honno oedd Jimmy Savile, a ddaeth yn DJ enwog a phersonoliaeth teledu yn ddiweddarach. Trefnwyd ras 1955 gan y British League of Racing Cyclists.
-
- Yn anterth ei phoblogrwydd, roedd y ras hwn yn gymharol mewn statws i'r Peace Race, ac roedd timau rhyngwladol yn cystadlu ynddi. O tua 1983 ymlaen, roedd y ras hefyd yn agored i dimau proffesiynol. Cefnogodd y Bwrdd Marchnata Llefrith y Scottish Milk Race hefyd, taith lai yn yr Alban.
-
- Enillodd Stuart O'Grady (Crédit Agricole) yn 1998; a Marc Wauters (Rabobank) yn 1999.
[golygu] Y ras gyfoes
[golygu] Tour of Britain 2004
Cynhaliwyd y ras gyntaf o'r fersiwn diwethaf o'r Tour of Britain dros pum diwrnod yn nechrau mis Medi 2004. Trefnwyd hi gan SweetSpot ynghyd â British Cycling. Cefnogwyd y ras gan drefnwyr Cais Llundain ar gyfer Gemau Olympaidd 2012. Roedd yn ras a hysbyswyd yn eang iawn, a chafodd timau adnabyddus megis T-Mobile (Yr Almaen) a U.S. Postal Service (UD) eu denu i gymryd rhan. Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod y ras yng nghategori 2.3 ar galendar rasio'r Union Cycliste Internationale (UCI).
Gorffenodd taith 2004 gyda criterium 45 milltir (72 km) yn Llundain, gwyliodd degoed o filoedd o bobl brêc hir gan y Llundeiniwr Bradley Wiggins, tan y lap cyn yr un olaf, a chymerodd Enrico Degano o dîm Tîm Barloworld y sbrint ar y linell. Enillodd y Colombiwr Mauricio Ardila, o dîm Chocolade Jacques, y Tour.
[golygu] Stage
Stage | Dyddiad | Dechrau | Gorffen | Pellter | Enillydd | Tîm | Amser | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | 1 Medi 2004 | Manceinion | Manceinion | 207 km | Stefano Zanini | QSD | 5h 01'23" | |
2 | 2 Medi 2004 | Leeds | Sheffield | 172 km | Mauricio Ardila | CHO | 4h 26'26" | |
3 | 3 Medi 2004 | Bakewell | Nottingham | 192 km | Tom Boonen | QSD | 4h 30'55" | |
4 | 4 Medi 2004 | Casnewydd | Casnewydd | 160 km | Mauricio Ardila | CHO | 3h 32'37" | |
5 | 5 Medi 2004 | Llundain | Llundain | 72 km | Enrico Degano | TBL | 1h 27'30" |
[golygu] Canlyniad Terfynol
Enw | Canedlaetholdeb | Tîm | Amser | |
---|---|---|---|---|
1 | Mauricio Ardila | CHO | 18h 58'36" | |
2 | Julian Dean | C.A | + 00'12" | |
3 | Nick Nuyens | QSD | + 00'17" |
[golygu] Tour of Britain 2005
Rhedwyd ras 2005 fel ras UCI categori 2.1 ar draws 6 stage, gan ddechrau yn Glasgow ar 30 Awst a gorffen yn Llundain ar 4 Medi:
[golygu] Stage
Stage | Dyddiad | Dechrau | Gorffen | Pellter | Enillydd | Tîm | Amser | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | 30 Awst 2005 | Glasgow | Castle Douglas | 185 km | Nick Nuyens | QSI | 4h 24'32" | |
2 | 31 Awst 2005-08-31 | Carlisle | Blackpool | 160 km | Roger Hammond | GBR | 3h 58'48" | |
3 | 1 Medi 2005 | Leeds | Sheffield | 160 km | Luca Paolini | QSI | 4h 27'24" | |
4 | 2 Medi 2005 | Buxton | Nottingham | 195 km | Serguei Ivanov | TMO | 4h 24'17" | |
5 | 3 Medi 2005 | Birmingham | Birmingham | (ITT) 4 km | Nick Nuyens | QSI | 4'54.06" | |
6 | 4 Medi 2005 | Llundain | Llundain | 60 km | Luca Paolini | QSI | 1h 30'54" |
[golygu] Final General Classification
Enw | Canedlaetholdeb | Tîm | Amser | |
---|---|---|---|---|
1 | Nick Nuyens | QSI | 19h 04'32" | |
2 | Michael Blaudzun | CSC | + 00'08" | |
3 | Javier Cherro Molina | ECV | + 00'22" |
[golygu] Tour of Britain 2006
Cymerodd Tour of Britain 2006 le ar 29 Awst hyd 3 Medi fel ras UCI categori 2.1. Enillodd Martin Pedersen y ras a chymerodd Andy Schleck o Dîm CSC gystadleuaeth brenin y mynyddoedd. Enillodd Mark Cavendish (T-Mobile) y gystadleuaeth bwyntiau a cymerodd Johan Van Summeren (Davitamon-Lotto) y gystadleuaeth sbrint.
[golygu] Stage
Stage | Dyddiad | Dechrau | Gorffen | Pellter | Enillydd | Tîm | Amser | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | 29 Awst 2006 | Glasgow | Castle Douglas | 162.6 km | Martin Pedersen | CSC | 4h 03'38" | |
2 | 30 Awst 2006 | Blackpool | Liverpool | 163 km | Roger Hammond | GBR | 3h 54'15" | |
3 | 31 Awst 2006 | Bradford | Sheffield | 180 km | Filippo Pozzato | QSI | 4h 28'18" | |
4 | 1 Medi 2006 | Wolverhampton | Birmingham | 130.3 km | Frederik Willems | JAC | 2h 54'12" | |
5 | 2 Medi 2006 | Rochester | Canterbury | 152.6 km | Francesco Chicchi | QSI | 4h 24'42" | |
6 | 3 Medi 2006 | Greenwich | The Mall | 82 km | Tom Boonen | QSI | 2h 00'41" |
[golygu] Canlyniad Terfynol
Enw | Canedlaetholdeb | Tîm | Amser | |
---|---|---|---|---|
1 | Martin Pedersen | CSC | 21h 51'24" | |
2 | Luis Pasamontes | UNI | + 00'51" | |
3 | Filippo Pozzato | QSI | + 02'11" |
[golygu] Tour of Britain 2007
Ymestynwyd y ras i saith diwrnod yn 2007, defnyddwyd y seithfed diwrnod ar gyfer stage yn Ngwlad yr Hâf am y tro cyntaf.
Yn lle gorffen yn Llundain, dechreuodd ras 2007 yno a gorffenodd yn Glasgow, a ddefnyddiodd y digwyddiad fel hwb iw cais ar gyfer lleoliad Gemau'r Gymanwlad yn 2014.
Enillodd Romain Feillu y Tour, a cipiodd Mark Cavendish y gystadleuaeth bwyntiau a Ben Swift gystadleuaeth brenin y mynyddoedd.
[golygu] Stage
Stage | Dyddiad | Dechrau | Gorffen | Pellter | Enillydd | Tîm | Amser | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Prologue | 9 Medi 2007 | Llundain | Llundain | 2.5 km | Mark Cavendish | TMO | 02'27.6" | |
Stage 1 | 10 Medi 2007 | Reading | Southampton | 138.9 km | Mark Cavendish | TMO | 3h07'46" | |
Stage 2 | 11 Medi 2007 | Yeovilton | Taunton | 169.2 km | Nikolai Trusov | TCS | 3h58'53" | |
Stage 3 | 12 Medi 2007 | Worcester | Wolverhampton | 152.5 km | Matthew Goss | CSC | 3h48'41" | |
Stage 4 | 13 Medi 2007 | Rother Valley Country Park | Bradford | 163.3 km | Adrian Palomares | FTV | 2h43'41" | |
Stage 5 | 14 Medi 2007 | Liverpool | Kendal | 170.1 km | Alexander Serov | TCS | 4h00'53" | |
Stage 6 | 15 Medi 2007 | Dumfries | Glasgow | 156.5 km | Paul Manning | GBR | 3h31'04" |
[golygu] Canlyniad terfynol
Enw | Canedlaetholdeb | Tîm | Amser | |
---|---|---|---|---|
1 | Romain Feillu | AGR | 21h 21'33" | |
2 | Adrian Palomares | FTV | Yr un amser | |
3 | Luke Roberts | CSC | + 6" |