Ulo
Oddi ar Wicipedia
Un o seintiau cynnar Cymru oedd Ulo (neu Iulo). Ychydig iawn sy'n hysbys amdano.
Mae'n bosibl mai Cymreigiad o'r enw personol Lladin Julius yw Ulo (trwy Iulo). Ceir sant adnabyddus o'r enw Julian (neu Julius) a ferthyrwyd yng Nghaerleon tua'r flwyddyn 304 OC. Ond mae'r eglwysi a lleoedd eraill a gysylltir â fo i gyd yn ne Cymru. Yn ogystal ni cheir enghraifft o'r ffurf Ulo yn y lleoedd hynny.
Cysylltir Sant Ulo â thri llecyn yng ngogledd-orllewin Cymru. Ar Ynys Môn ceir yr enw Capel Ulo ar fferm ger Caergybi ond nid oes unrhyw olion hynafol i'w gweld yno heddiw. Gerllaw y fferm roedd Ffynnon Ulo i'w cael ar un adeg. Capelulo yw'r enw amgen am bentref Dwygyfylchi, rhwng Penmaenmawr a thref Chonwy. Nid oes olion capel yno heddiw ond roedd y gair 'capel' yn gallu golygu "cell feudwy" yn yr hen oesoedd; adeilad syml o bren fyddai fel rheol.