Cookie Policy Terms and Conditions Uthr Bendragon - Wicipedia

Uthr Bendragon

Oddi ar Wicipedia

Arweinydd Brythonig a thad y Brenin Arthur yn ôl traddodiad oedd Uthr Bendragon, weithiau Wthyr Bendragon. Ystyr "Pendragon" yw "prif bennaeth".

Ceir ei hanes yn llawn yn fersiwn Sieffre o Fynwy o chwedl Arthur yn ei Historia Regum Britanniae. Dywed fod Uthr yn fab i Cystennin II ac yn frawd i Emrys Wledig. Magwyd ef yn Llydaw er mwyn osgoi gelyniaeth Gwrtheyrn, a chynorthwyir hwynt gan Emyr Llydaw. Dychelant i Brydain, a gorchfygu Gwrtheyrn. Daw Emrys yn frenin, ac mae Uthr yn arwain byddin i Iwerddon i gynorthwyo'r dewin Myrddin i ddod a meni oddi yno i adeiladu Côr y Cewri.

Gan fod Emrys yn wael ar y pryd, mae Uthr yn arwain byddin yn erbyn Paschent, mab Gwrtheyrn, a'i gyngheiriaid Sacsonaidd. Ar y ffordd i faes y frwydr, mae'n gweld comed ar ffurf draig, ac mae Myrddin yn ei dehongli fel proffwydoliaeth o farwolaeth Emrys ac Uthr yn dod yn frenin. Wedi ennill y frwydr, cymer Uther yr enw "Pendragon". Erbyn iddo ddychwelyd ma Emrys wedi ei wenwyno, ac mae'n olynu Emrys ar orsedd Ynys Brydain. Ar ei orchymyn, gwneir dwy ddraig o aur, ac mae'n defnyddio un fel ei faner.

Syrth Uthr mewn cariad a gwraig Gorlois, Dug Cernyw, Eigr (Igraine). Caiff gymorth y dewin Myrddin, sy'n newid ei ffurf fel bod Eigr yn meddwl mai ei gŵr ydyw. Mae Uthr yn cysgu gydag Eigr yng ngastell Tintagel, a chenhedlir Arthur. Lleddir Gorlois yr un noson, ac mae Uthr yn priodi Eigr. Yn nes ymlaen, gwenwynir Uthr, ac mae Arthur yn ei ddilyn ar yr orsedd.

Ceir cyfeiriadau cynharach at Uthr yn y traddodiad Cymreig; er enghraifft mae cerdd yn Llyfr Du Caerfyrddin lle dywedir fod Mabon fab Modron yn was i Uthr. Mae cerdd arall, Ymddiddan Arthur a'r eryr, yn crybwyll nai i Arthur o'r enw Eliwlad, oedd yn fab i Fadog fab Uthr; byddai Madog felly yn frawd i Arthur. Ymddengys Uthr yn un o Drioedd Ynys Prydain hefyd, "Tair Prif Hud Ynys Prydain", lle dywedir iddo ddysgu hud i Menw fab Teirgwaedd, sy'n ymddangos fel cymeriad yn chwedl Culhwch ac Olwen.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Meic Stephens (gol.) Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986) ISBN 0-7083-0915-1
Static Wikipedia 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu