Vitus Bering
Oddi ar Wicipedia
Roedd Vitus Jonassen Bering, weithiau Behring, (Awst 1681-19 Rhagfyr, 1741) yn forwr a fforiwr Danaidd yn llynges Rwsia, a adnabyddid gan y morwyr Rwsaidd fel Ivan Ivanovich. Ganed Bering yn Horsens, Denmarc a bu farw ar Ynys Bering, ger Gorynys Kamchatka.
Wedi mordaith i India'r Dwyrain, ymunodd a'r llynges Rwsaidd yn 1703. Priododd wraig o Rwsia, ac wedi ymweliad byr â Horsens yn 1715 ni ddychwelodd yno wedyn. Yn 1725, teithiodd ar dir i Okhotsk, croesodd i Kamchatka, ac adeiladodd y llong Sviatoi Gavriil (Sant Gabriel). Ar y llong yma, hwyliodd Bering tua'r gogledd yn 1728, hyd na allai weld rhagor o dir tua'r gogledd na'r dwyrain.
Y flwyddyn wedyn bu'n chwilio am dir i'r dwyrain, gan ail-ddarganfod Ynys Ratmanov, un o Ynysoedd Diomede. Yn 1730 dychwelodd i Sant Petersburg, ond yn ystod y daith hir trwy Siberia bu ef yn wael iawn a bu farw pump o'i blant. Dychwelodd i Okhotsk yn 1735, lle'r adeiladwyd dwy long: Sviatoi Piotr (Sant Pedr) a Sviatoi Pavel (Sant Paul). Yn 1740 sefydlodd Petropavlovsk yn Kamchatka. Oddi yno hwyliodd i gyfeiriad Gogledd America yn 1741, gan gyrraedd arfordir deheuol Alaska.

Ar y ffordd yn ôl, darganfuwyd rhai o Ynysoedd Aleutia, ond dirywiodd iechyd Bering a bu raid glanio ar ynys ym Môr Bering lle bu farw ar 19 Rhagfyr 1741. Enwyd yr ynys ar ei ôl. Heblaw y môr a'r ynys, mae Culfor Bering yn dwyn ei enw.