Volgograd
Oddi ar Wicipedia
Volgograd
|
|
---|---|
oblast Volgograd
|
|
Lleoliad Volgograd | |
Daearyddiaeth
|
|
Arwynebedd | 565 km² |
Uchder uwchben lefel y môr | m |
Demograffeg
|
|
Poblogaeth (Cyfrifiad 2002) | 1,011,417 |
Poblogaeth (amcangyfrif 2004) | 1,004,170 |
Gwleidyddiaeth
|
|
Maer | Roman Grebennikov |
Dinas yn ne Rwsia, ar lan orllewinol Afon Volga, yw Volgograd (Rwsieg Волгоград / Volgograd), gynt Tsaritsyn (Rwsieg Царицын) (1598–1925), wedyn Stalingrad (Rwsieg Сталинград) (1925–61). Canolfan weinyddol oblast Volgograd yw hi.
Sylfaenwyd y ddinas yn 1589 fel caer lle mae Afon Tsaritsa yn ymuno ag Afon Volga i amddiffyn ffin ddeheuol Rwsia. Fe'i cipiwyd ddwywaith mewn gwrthryfeloedd gan Cosaciaid, unwaith mewn gwrthryfel Stenka Razin ym 1670 ac unwaith mewn gwrthryfel Yemelyan Pugachev ym 1774. Daeth yn borthladd ac yn ganolfan fasnachol o bwys yn ystod y 19eg ganrif.
Yn y rhyfel cartref, roedd ymladd ffyrnig am Tsaritsyn. Fe'i meddiannwyd gan luoedd y Bolsieficiaid ym 1918, ond ymosodwyd arni gan luoedd y Gwynion. Bu bron iddi gwympo, ond achubwyd y ddinas i'r Cochion gan Gadfridog Pavel Sytin a chadeirydd y pwyllgor milwrol lleol, Josef Stalin. Gan i Stalin gymryd rhan yn yr ymdrech i'w hamddiffyn yn y rhyfel cartref, ailenwyd y ddinas ar ei ôl fel Stalingrad ('Dinas Stalin') ym 1925.
Yn y 1930au datblygodd Stalingrad fel canolfan diwydiant trwm a chanolfan cludo nwyddau. Chwaraeodd rôl allweddol yn yr Ail Ryfel Byd, pryd bu lluoedd Sofietaidd a Nazïaidd yn ymladd dros y ddinas am dros bum mis ym Mrwydr Stalingrad. Cafodd y ddinas ei difetha bron yn llwyr yn y frwydr, ond llwyddodd lluoedd Sofietaidd i gadw rheolaeth arni. Gwelir amddiffyniad Stalingrad fel trobwynt yn y rhyfel gan mai Stalingrad yw'r pwynt pellach i luoedd Almaenig ei gyrraedd yn y dwyrain. Mewn cydnabyddiaeth o aberth y dinesyddion, rhoddwyd y teitl 'dinas-arwr' iddi ym 1945. Newidiwyd yr enw unwaith eto ym 1961 i Volgograd, fel rhan o raglen ddileu cwlt Stalin Krushchev.