Will Wright
Oddi ar Wicipedia
Manylion Personol | |
---|---|
Enw Llawn | Will Wright |
Llysenw | Willie Feet |
Dyddiad geni | 1973 |
Gwlad | ![]() |
Gwybodaeth Tîm | |
Tîm Presennol | Will's Wheels Cycling Club |
Disgyblaeth | Ffordd a trac |
Rôl | Reidiwr |
Tîm(au) Amatur | |
1970au 1990au 1996 2002 |
Manchester Velo ATOM Elite Marston's Low C/Wales Will's Wheels Cycling Club |
Prif gampau | |
Cystadlu yn Ngemau'r Gymanwlad 1994 a 2002. | |
Golygwyd ddiwethaf ar: | |
22 Medi, 2007 |
Seiclwr Cymreig ydy Will Wright, sydd wedi cynyrchioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad ddwywaith, mae hefyd yn berchen ar siop feics yn Stockport.
Dechreuodd seiclo yn ei arddegau cynnar, gan ymuno â 'Manchester Velo' ar eu reidiau clwb wythnosol, pob dydd Sul, ond dim ond ar ôl iddo orffen dosbarthu papurau'r Sul ar ei rownd bapur. Cafodd y llysenw Willie Feet (Cymraeg: Willie Traed), oherwydd main anarferol o fawr, ei draed[1].
Ar ôl gorffen ei addysg uwchradd, aeth Will i weithio i siop 'Marple Cyclesport'. Cafodd dipyn o lwyddiant mewn rasus, ac felly dewiswyd ef i gynyrchioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Victoria, Canada yn 1994. Yno cystadleuodd yn ei ras trac cyntaf, er nad oedd erioed wedi reidio'r trac gynt[1]. Cystadleuodd yn y Gemau unwaith eto, yn agosach at ei gartref y tro yma, yn Manceinion yn 2002, ond yn anffodus disgynodd yn ystod y ras bwyntiau; gellir wylio ffilm byr o'r damwain ar wefan y BBC Motion Gallery[2].
Cymerodd drosodd 'Bardsley Cycles' 482 Manchester Road, Stockport, Manceinion yn y 1990au, a gafodd ei ail-enwi'n ddiweddarach yn 'Will's Wheels', mae hefyd yn cefogi clwb seiclo o'r un enw, 'Will's Wheels Cycling Club'. Yn ogystal, mae 'Will's Wheels' yn cefogi rasus lleol gan roddi gwobrau, mae Will ei hun wedi gwobrwyo rhain i'r enillwyr ar adegau[3] Ymddeolodd Will o seiclo cystadleuol etr mwyn gwario mwy o amser gyda'i ferched, Emily a Megan, a'i wraig Sarah.
[golygu] Canlyniadau
- 1996
- 3rd Cam 1, Thwaites Grand Prix/Tour of Lancashire
- 2005
- 2nd Pencampwriaethau Cenedlaethol Rasio Ffordd, Cymru[4]
[golygu] Ffynhonellau
- ↑ 1.0 1.1 From Willie Feet to Will`s Wheels Danielle M. Riley
- ↑ 'A rapt crowd sees thrills and spills as the medals get decided' Games official website 2 Awst 2002
- ↑ Recycling.co.uk R.R. League Event 4 - Oakenclough 7 Mai 2006
- ↑ Thomas retains Welsh Road crown BBC 25 Mai 2005