Y Fam Teresa
Oddi ar Wicipedia
Lleian Gatholig a chenhades o dras Albaniaidd oedd y fam Teresa (ganwyd Agnes Gonxhe Bojaxhiu) (26 Awst 1910 - 5 Medi 1997). Pan yn ddeunaw oed, fe adawodd Agnes ei chartref yn nhalaith Kosovo i ddod yn leian a chenhades gyda sefydliad Chwiorydd Loreto. Fe ddysgodd hi Saesneg, yr iaith a ddefnyddiwyd gan leianod i addysgu plant yn India, cyn symud i India i weithio fel athrawes Ddaearyddiaeth mewn ysgol yn y wlad honno. Yn ystod y cyfnod hwn, newidodd hi ei henw i Teresa, ar ôl nawddsant cenhadesau. Yn 1952, sefydlodd y Fam Teresa gartref i gysuro pobl a oedd yn marw ac yn dioddef mewn hen deml Hindŵaidd yn ninas Calcutta a oedd eisioes yn anghyfannedd. Gelwir y sefydliad yma yn Kalighat Home for the Dying. Fe enillodd hi Wobr Heddwch Nobel yn 1979 am ei gwaith yn helpu'r tlawd a'r bobl a oedd yn marw. Fe farwodd hi ar y pumed o Fedi 1997. Wedi ei marwolaeth, am ei gweithredau da yn ystod ei bywyd, gwynfydwyd hi gan y Pab Ioan Pawl II.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.