Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
Oddi ar Wicipedia
Ysgol Gymraeg yn Abertawe yw Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe.
Mae hi'n un o'r ysgolion fwyaf newydd o ran yr adeilad ac o ran technoleg yng Nghymru: Agorwyd yr ysgol ym mis Medi, 2003.
Mae'r ysgol yn falch am y cyfleoedd sydd gan y disgyblion yno. Dim ond Cymraeg yw iaith yr ysgol a rhaid i bob disgybl siarad Cymraeg yn ystod yr oriau ysgol. Mae yna gwricwlwm estynedig gorfodol ar ddydd Mercher, lle mae'n rhaid i ddisgyblion aros tan 4:00 y.h i fynychu ystod eang o glybiau. Mae'r ysgol yn cadw cofnod o bob disgybl sy'n siarad Saesneg ac fe'u cosbir os caent eu dal. Mae'r ysgol hefyd yn profi system gofrestru fertigol lle mae blynyddoedd 7-10 yn cofrestru gyda'i gilydd. System lwyddianus iawn yn ôl yr athrawon, ond yn bwnc llosg ymysg y disgyblion.
Mae'r ysgol hefyd yn disgwyl potensial enfawr gan y disgyblion sydd am gael yr hyn maent yn ei ystyried yn un o'r gorau yng Nghymru. Tydi'r ysgol ddim yn llawn eto, a dim ond blynyddoedd 7,8,9,10 a 11 sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd. Mae'r ysgol wedi paratoi llawr newydd ar gyfer y chweched ddosbarth, a fydd yn barod yn y misoedd nesaf.