Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
Oddi ar Wicipedia
Yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf i'w sefydlu yng Nghaerdydd yw Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Fe'i lleolir yn Ystum Taf, Caerdydd. Sefydlwyd yr ysgol yn benllanw i flynyddoedd o ymgyrchu dros addysg Gymraeg. Agorodd ei drysau i'r disgyblion cyntaf (98 ohonynt) ym Medi 1978. Dewiswyd safle ysgol Saesneg ei chyfrwng, Glantaff, fel y lleoiliad gan fod niferoedd yr ysgol Saesneg yn cwympo'n naturiol oherwydd rhesymau demograffig ac apêl ysgolion uwchradd eraill yn yr ardal. Prifathro cyntaf yr ysgol oedd Malcolm Thomas.
Erbyn y 1998 roedd cymaint o alw am addysg Gymraeg yng Nghaerdydd, agorwyd ysgol arall, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr.
Arwyddair yr ysgol yw Coron gwlad ei mamiaith.
[golygu] Enwogion Glantaf
Ymysg ei chyndisgyblion mae amryw o gyflwynwyr teledu a chantorion pop Cymraeg, Matthew Rhys (Actor), Matthew Pritchard (Cyflwynwr Teledu), Guto Pryce (Aelod o'r Super Furry Animals), Huw Bunford (Aelod o'r Super Furry Animals), Eluned Morgan MEP(Aelod o'r Sennedd Ewropeaidd), Branwen Gwyn (Cyflwynwr Teledu), Gethin Jones (Cyflwynwr Blue Peter), Jamie Roberts (Chwaraewr Rygbi), Huw Stephens (DJ radio), Ffion Jenkins (gwraig William Hague), Jamie Robinson (Chwaraewr Rygbi), a Nicky Robinson (Chwaraewr Rygbi).
[golygu] Ôl Nodyn
Heb amheuaeth Glantaf yw'r ysgol gorau yn y byd erioed!!!