Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig
Oddi ar Wicipedia
Ysgol gyfun gymunedol Gymraeg yn nhref glan-môr Aberystwyth yw Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig. Enwyd ar ôl yr hen gantref o'r un enw (Penweddig). Sefydlwyd yr ysgol yn 1973[1] fel ysgol ddwy-ieithog, ond ysgol Gymraeg yw hi erbyn hyn.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Tîm rheoli'r ysgol
Mr Arwel George - Prifathro Miss Bethan Evans - Dirprwy Prifathrawes Mrs Shelagh Byers - Dirprwy Prifathrawes Cynorthwyol. Y cwmni Atkins sydd yn perchen ar adeilad yr ysgol, ac mae'n gael ei logi i'r Cyngor Sir i'w cael ei ddefnyddio fel ysgol. Mae gan yr ysgol tua 600 o ddisgyblion.
Pan ddechreuwyd yr ysgol yn y 70au mi roedd yn byw mewn hen adeilad ar Ffordd Dewi, Aberystwyth, adeilad roedd y cyngor yn perchen. Ym mis Hydref 2001 symudwyd yr ysgol i'w cartref presennol yn Ffordd Llanbadarn.
[golygu] Gwerthoedd yr ysgol
- Parchu eich hunain ac eraill
- Parchu eiddo ac amgylchedd
- Parchu'r ysgol
- Defnyddio'r iaith Gymraeg hyd eithaf eich gallu.
[golygu] Gwisg ysgol
Pawb
- Crys Chwys Penweddig (Du)
- Crys Polo Penweddig (Coch, Gwyn neu Gwyrdd)
- Esgidiau du (nid "trainers")
- Dim colur
- Dim gemwaith
Bechgyn
- Trowsus du neu nefi
Merched
- Trowsus neu sgert du neu nefi
- Sanau gwyn, nefi neu du / teits nefi neu du
Yn 2007, newidwyd gwisg yr ysgol ychydig. Y newidiadau oedd:
- Lliw y crys chwys o nefi i du oherwydd ei fod yn rhy debyg i crys chwys Ysgol Penglais.
- Ychwanegiad o goch i'r lliwiau ar gael i'r crysau polo.