Ysgol Gyfun Llanhari
Oddi ar Wicipedia
Ysgol yn Llanhari, Rhondda Cynon Taf yw Ysgol Gyfun Llanhari sydd â disgyblion o oedrannau rhwng 11 a 18. Sefydlwyd yr ysgol yn 1974, yn dilyn agoriad Ysgol Gyfun Rhydfelen rhai blynyddoedd ynghynt. Roedd yr ysgol mor boblogaidd yr oedd yn fuan wedi ei gor-tanysgrifo ac felly agorwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd yn 1978 er mwyn cymryd disgyblion o Dde Morgannwg.
[golygu] Gwybodaeth Bellach
Mae'r ysgol yn dal tua 1,500 ddisgyblion ac mae ganddi tua 80 o athrawon gyda chymwysterau agored iawn.
Daw'r disgyblion o ysgolion cynradd Meisgyn, Bro Ogwr ac Dolau ym mlwyddyn 7 y system addysgol.
Mae 3 cae rygbi / pêl-droed, cae hoci, iard pêl-droed / pêl fasged a iard wedi ei tharmacio ar dir yr ysgol. Mae gan yr ysgol un o'r campysau mwyaf yn ne Cymru.
[golygu] Gweinyddiaeth
- Pennaeth yr Ysgol: Ms T A Morris
- Dirprwyon: Mr Stephens a Mrs R Phillips
- Dirprwyon pellach: Mrs A Davies, Mr G Howells a Ms A Pugh-Jones