Ysgol Gynradd Gymraeg Gartholwg
Oddi ar Wicipedia
Ysgol gynradd Gymraeg ym Mhentre'r Eglwys, Pontypridd, yw Ysgol Gynradd Gymraeg Gartholwg. Fe'i hagorwyd fel ysgol Gymraeg ym 1966. Yn 2006, symudodd yr ysgol i adeilad ar gampws newydd Gartholwg ar yr un safle, campws sydd hefyd yn cynnwys meithrinfa, canolfan dysgu gydol oes ac adeilad newydd Ysgol Gyfun Rhydfelen.